News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid

Postiwyd ar : 15 Gor 2022

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid gydag amrywiaeth o weithgareddau hwyl i bobl ifanc wedi'u trefnu gan dîm y Gwasanaeth Ieuenctid.
 
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn ddathliad blynyddol i arddangos effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru. Nod yr wythnos yw hybu dealltwriaeth ehangach o waith ieuenctid a'r gefnogaeth ar ei gyfer.
 
Eleni, digwyddodd Wythnos Gwaith Ieuenctid rhwng 23 a 30 Mehefin gyda’r thema 5 ffordd at les – Rhoi, Cysylltu, Cymryd Sylw, Bod yn Actif, Dal ati i Ddysgu.
 
Cafodd pobl ifanc ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau mewn canolfannau, fel gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar, creu bagiau lles a jariau positifrwydd.
 
Cafodd fideos ymarfer corff hwyl eu postio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol i bawb eu mwynhau a bu pobl ifanc hefyd yn mwynhau taith diwrnod i Draeth Ynys y Barri i gwblhau arolwg traeth fel rhan o brosiect ‘Plastig ddim yn Ffantastig’.
 
Yn ystod yr wythnos hefyd, ail-agorwyd grwpiau LHDTC+ ledled y fwrdeistref, yn unol ag Wythnos Balchder, a oedd wedi bod ar gau dros dro yn flaenorol oherwydd y Pandemig COVID-19.
 
Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol: “Diolch yn fawr iawn i’r Tîm Ieuenctid am eu rhan yn Wythnos Gwaith Ieuenctid, ac am y gwaith maen nhw’n ei wneud trwy gydol y flwyddyn i bobl ifanc ein bwrdeistref.”


Ymholiadau'r Cyfryngau