News Centre

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gofyn i drigolion i fod yn wyliadwrus yn dilyn ymosodiadau llosgi bwriadol

Postiwyd ar : 18 Gor 2022

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gofyn i drigolion i fod yn wyliadwrus yn dilyn ymosodiadau llosgi bwriadol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gofyn i drigolion i fod yn wyliadwrus ar ôl i barc lleol gael ei dargedu dwywaith mewn llai na phum mis gan bobl ytn cynnau tannau bwriadol.

Roedd yr ymosodiad diweddar ar y maes chwarae i blant yn Woodfieldside, Coed Duon yn cynnwys difrodi i si-so ac yr arwyneb diogel, ac mae swyddogion yn amcangyfrif y bydd yn costio tua £5000 i’w drwsio, tra bod yr ymosodiad cyntaf yn gynharach eleni wedi arwain at ddifrod yn costio dros £20,000.

Meddai’r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd “Er bod llawer yn mwynhau maes chwarae Woodfieldside, mae’n gymaint o drueni ei fod wedi’i ddifrodi gan leiafrif bach.

 “Rydyn ni’n teimlo bod fandaliaid yn manteisio ar leoliad anghysbell y parc hwn ac felly rydyn ni’n gofyn i’n trigolion i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod am unrhyw weithgarwch amheus.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiad hwn neu i roi gwybod i’r heddlu amheus, cysylltwch â’r heddlu ar 101.


Ymholiadau'r Cyfryngau