News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Cyhoeddi Cyflwynwyr Capital South Wales i fynychu Digwyddiad Swyddi Gwag Byw

Postiwyd ar : 08 Gor 2022

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Cyhoeddi Cyflwynwyr Capital South Wales i fynychu Digwyddiad Swyddi Gwag Byw
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi y bydd cyflwynwyr Capital South Wales, Josh a Kally, yn bresennol yn nigwyddiad Swyddi Gwag Byw eleni.
 
Mae’r digwyddiad Pa Ffordd Nawr? wedi denu cannoedd o bobl ifanc sy’n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant, yn y gorffennol, yn dychwelyd ar 12 Gorffennaf 2022.

Yn y gorffennol, mae'r digwyddiad wedi denu cannoedd o bobl ifanc sy'n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.

Mae’r digwyddiad, sydd mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, wedi’i anelu at ymadawyr ysgol a phobl ifanc 16-24 oed sy’n chwilio am gyngor ac ysbrydoliaeth am ba lwybr gyrfa i’w gymryd nesaf.


Bydd amrywiaeth o gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn bresennol, a byddan nhw'n cynnig amrywiaeth eang o gyngor, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith.
 
Mae modd clywed Josh a Kally ar Capital South Wales, yn ystod yr wythnos 4pm – 7pm, a nhw fydd yn cynnal y digwyddiad ac yn chwarae'n fyw o Ganolfan Hamdden Caerffili ddydd Mawrth 12 Gorffennaf rhwng 9:30am-2:30pm
 
I gael rhagor o wybodaeth am y Digwyddiad Pa Ffordd Nawr ewch i: https://www.caerphilly.gov.uk/News/News-Bulletin/June-2022/Caerphilly-County-Borough-Council%E2%80%99s-Live-Vacancy-E?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau