News Centre

Cyngor Caerffili yn ennill dwy wobr tai

Postiwyd ar : 26 Gor 2022

Cyngor Caerffili yn ennill dwy wobr tai
Yn ddiweddar, enillodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wobr gyntaf ac ail wobr mewn dau gategori yng Ngwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru eleni.
 
Enillodd ei Dîm Tai Pobl Hŷn y wobr gyntaf am ei ddull o gefnogi lles rhai o’i denantiaid a phreswylwyr mwyaf agored i niwed.  Roedd y wobr yn cydnabod ymdrechion staff yn ei gynlluniau tai lloches a'r gwasanaeth cymorth hyblyg.
 
Daeth dull y Cyngor o gynnwys cymunedau yn y gwaith o gyflawni gwelliannau amgylcheddol hefyd yn ail yn y gwobrau.  Mae'r gwaith hwn wedi'i wneud gan y Cyngor fel rhan o'i raglen Safon Ansawdd Tai Cymru gwerth £260 miliwn.
 
Mae Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru blynyddol yn dathlu arfer da o ran cynnwys tenantiaid a chymunedau mewn gwasanaethau cysylltiedig â thai ledled Cymru. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran yn y cyflawniad rhagorol hwn.  Mae ennill y gwobrau mawreddog hyn yn dangos yn glir ymdrechion Tîm Caerffili i sicrhau ein bod ni'n parhau i ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar breswylwyr lle mae eu hangen.”

 


Ymholiadau'r Cyfryngau