News Centre

Grwpiau cymunedol Caerffili yn elwa ar grantiau gwerth dros £21,000

Postiwyd ar : 25 Gor 2022

Grwpiau cymunedol Caerffili yn elwa ar grantiau gwerth dros £21,000
Mae grwpiau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi elwa o £21,187.96 mewn grantiau yn hanner cyntaf 2022.
 
Cafodd grantiau gwerth £2,140 eu dyrannu drwy Grantiau’r Cyngor i Gronfa’r Sector Gwirfoddol, gan gynnwys cymorth i ystod o grwpiau cymunedol megis Canolfan Gymunedol Trelyn, Rhymney Castle Select Flying Club a Ravenswood Allotment Society. Yn ogystal, mae sawl unigolyn wedi sicrhau cymorth ariannol i gynrychioli Cymru neu Brydain Fawr yn gystadleuol yn y gamp o’u dewis.
 
Mae’r Gronfa Deddf Eglwysi Cymru wedi rhoi cyfanswm o £19,047.96 mewn cyllid i alluogi i gwmni buddiannau cymunedol Libanus Lifestyle Wales osod cladin yn y brif neuadd, drws tân newydd, drws rholer a silffoedd newydd, ac i alluogi i Grŵp Cymunedol Wattsville brynu byrddau a chadeiriau newydd er mwyn i’r gymuned eu defnyddio, yn ogystal â phrosiectau eraill.
 
Meddai’r Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Mae grwpiau gwirfoddol yn amhrisiadwy i’n cymunedau lleol, felly mae’n bleser gweld ystod eang o brosiectau yn cael cymorth gan y Grantiau Sector Gwirfoddol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cyllid ychwanegol hwn yn eu galluogi nhw i barhau i ffynnu.”


Am ragor o wybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i grwpiau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ewch i: https://www.caerphilly.gov.uk/Services/Benefits-and-grants/Grants-for-Communities?lang=cy-gb
 


Ymholiadau'r Cyfryngau