News Centre

Perllan ddiolchgarwch wedi'i phlannu yng Nghaerffili gan ffoaduriaid o Wcráin

Postiwyd ar : 30 Ion 2024

Perllan ddiolchgarwch wedi'i phlannu yng Nghaerffili gan ffoaduriaid o Wcráin

Mae perllan wedi’i phlannu gan ffoaduriaid o Wcráin yng Nghaerffili i ddangos eu diolchgarwch parhaus i’r Cymry a agorodd eu calonnau a’u cartrefi yn garedig yn dilyn goresgyniad Rwsia.

Cafodd y digwyddiad arbennig ar gyfer Perllan Ddiolchgarwch Wcráin ei gynnal ddydd Sadwrn Ionawr 27 ym Mharc Morgan Jones, i nodi dwy flynedd ers goresgyniad Rwsia yn Wcráin.

Roedd y digwyddiad yn arddangos diwylliant Wcráin ac roedd cerddoriaeth Wcráin. Hefyd, canodd ffoaduriaid Calon Lân i fynegi eu diolchgarwch i Gymru.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai ac aelod ward dros Morgan Jones, “Rydw i am ddiolch i gymuned Wcráin am drefnu’r seremoni plannu coed, rydw i’n falch o’n trigolion ni a agorodd eu cartrefi a darparu cymorth i Wcreiniaid sydd wedi ffoi'r rhyfel annirnadwy. Mae’r coed yn symbol o undod rhwng ein dwy wlad a byddan nhw'n cael eu coleddu gan drigolion am flynyddoedd i ddod.’’



Ymholiadau'r Cyfryngau