News Centre

Datgelu cynlluniau cyllideb y Cyngor

Postiwyd ar : 11 Ion 2024

Datgelu cynlluniau cyllideb y Cyngor

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi datgelu manylion cynigion ei gyllideb ddrafft ar gyfer 2024/25, cyn cyfarfod Cabinet y Cyngor ddydd Mercher nesaf 17 Ionawr.

“Dros y 3 blynedd nesaf, mae Caerffili yn wynebu diffyg cyllidebol o tua £66 miliwn, felly, mae angen i ni wneud rhai newidiadau sylweddol er mwyn llenwi’r bwlch enfawr hwn yn y gyllideb,” meddai’r Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor.

“Rydyn ni'n adolygu ac yn trawsnewid llawer o’n gwasanaethau i nodi arbedion effeithlonrwydd a chyflawni newid cadarnhaol, ond, yn anochel, bydd angen i ni hefyd wneud rhai penderfyniadau anodd dros y 12 mis nesaf i fantoli ein cyfrifon,” ychwanegodd.

Mae rhai o’r cynigion allweddol yn adroddiad y gyllideb yn cynnwys:

  • Cynnydd 6.9% arfaethedig yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2024/25
  • £19.5 miliwn o arbedion parhaol
  • £11.4 miliwn o arbedion dros dro
  • Defnyddio £11.3 miliwn o gronfeydd wrth gefn y Cyngor tuag at arbedion

“Mae’n bwysig bod pobl leol yn cael y cyfle i ddweud eich dweud am y cynigion hyn ar gyfer y gyllideb, felly, dros yr wythnosau nesaf, byddwn ni'n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus eang i gasglu adborth gan y gymuned am gynigion ein cyllideb.

“Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn agor ar Ionawr 22, felly, cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod sut y gallwch chi helpu siapio’r ffordd rydyn ni'n darparu ein gwasanaethau yn y dyfodol,” ychwanegodd y Cynghorydd Morgan.

Bydd adroddiad y gyllideb yn cael ei ystyried gan y Cabinet ar 17 Ionawr, yna, yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus, bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei ystyried mewn cyfarfod Cyngor Llawn ddiwedd mis Chwefror.

Mae adroddiad llawn y gyllideb, sy’n cynnwys manylion y cynigion arbedion, i’w weld yma:

https://democracy.caerphilly.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=128&MId=14283&LLL=0



Ymholiadau'r Cyfryngau