News Centre

Coffi Vista - Y gwir

Postiwyd ar : 11 Ion 2024

Coffi Vista - Y gwir
Coffi Vista, Caerffili

Mae cynlluniau i gau siop goffi sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor yng nghanol tref Caerffili wedi denu llawer o sylw dros y dyddiau diwethaf, gyda llawer o bobl eisiau deall y rhesymeg y tu ôl i’r cynnig.

Mae'r Cyngor yn awyddus i ddweud y gwir a helpu i egluro'r rhesymau dros yr argymhelliad, sy'n rhan o gynigion arbedion cyllidebol yr Awdurdod ar gyfer 2024/25.

Ydy Coffi Vista yn gwneud elw?

Nac ydy – Yn anffodus mae Coffi Vista yn gweithredu ar golled sylweddol ar hyn o bryd.

Faint yw'r cymhorthdal presennol?

Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn talu mwy na £100,000 y flwyddyn o arian cyhoeddus i gau'r bwlch yng nghyllideb Coffi Vista. Dros y 5 mlynedd diwethaf mae'r ganolfan wedi cael cymhorthdal o fwy na hanner miliwn o bunnoedd o arian cyhoeddus.

Onid yw'n Ganolfan Groeso bwysig?

Yn flaenorol, roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel canolbwynt gwybodaeth i dwristiaid, ond dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi symud tuag at ddod yn siop goffi amser llawn, gan ddarparu dim ond ychydig o’r cyfleusterau gwybodaeth i dwristiaid yr oedd yn eu cynnig yn y blynyddoedd blaenorol.

A allai'r safle barhau i weithredu fel siop goffi yn y dyfodol?

Os bydd y penderfyniad yn cael ei gymeradwyo, byddai'r Cyngor yn ymgysylltu â'r sector masnachol i weld a oes cyfle i ddatblygu model busnes sy'n gweithio i'r Cyngor, pobl leol a'r gymuned fusnes. Ni fyddai hyn yn golygu defnyddio arian cyhoeddus.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd y Cyngor yn ystyried dyfodol yr adeilad fel rhan o gynigion arbedion ehangach ar gyfer 2024/25 ac mae disgwyl penderfyniad terfynol ddiwedd mis Chwefror.

Sut gall pobl leol ddweud eu dweud?

Bydd ymgynghoriad cyllideb arbennig yn cael ei gynnal o ddydd Llun 22 Ionawr, pan fydd pobl leol yn cael cyfle i ddweud eu dweud a rhoi adborth ar fanylion yr arbedion arfaethedig.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod Coffi Vista yn gyfleuster poblogaidd, ond mae angen i drigolion ystyried a yw er budd y cyhoedd i roi cymhorthdal mawr i siop goffi yng Nghaerffili, neu ailgyfeirio’r arian y mae mawr ei angen tuag at ddarparu gwasanaethau rheng flaen allweddol.

"Gyda'r Cyngor yn wynebu diffyg o £66 miliwn yn y gyllideb dros y blynyddoedd nesaf, mae'n codi'r cwestiwn a ddylai'r trethdalwr barhau i roi cymhorthdal i fentrau sy'n gwneud colled megis Coffee Vista, neu ystyried modelau amgen sy'n cadw canol trefi yn brysur heb ddefnyddio arian y trethdalwr. Nid yw rhoi cymhorthdal i Siop Goffi yn flaenoriaeth pan fo arian o dan bwysau mawr i redeg gwasanaethau statudol, megis addysg a gofal cymdeithasol."



Ymholiadau'r Cyfryngau