News Centre

Adfer Tomen Bedwas - y gwir

Postiwyd ar : 30 Ion 2024

Adfer Tomen Bedwas - y gwir

Mae’r Cyngor yn ymwybodol bod rhywfaint o bryder a dryswch yn y gymuned ynglŷn ag adfer Tomen Bedwas, felly, rydyn ni'n awyddus i rannu'r gwir am y sefyllfa bresennol.

Yn gyntaf, mae'n bwysig pwysleisio nad oes caniatâd wedi'i roi i unrhyw gynllun adfer o'r fath ddatblygu. Yn wir, pe bai prosiect mor fawr yn mynd yn ei flaen, byddai’n destun craffu manwl ac ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o’r broses ceisiadau cynllunio ffurfiol.

Byddai cynllun o'r arwyddocâd hwn hefyd yn amodol ar gymeradwyaeth a chaniatâd gan amrywiaeth o asiantaethau statudol eraill cyn i unrhyw waith ddechrau.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gais cynllunio ffurfiol wedi’i gyflwyno i’r Cyngor, fodd bynnag, rydyn ni'n ymwybodol bod datblygwr yn y broses o gynnal ‘ymgynghoriad cyn ymgeisio’ ar hyn o bryd.

Mae'n ofynnol i ddatblygwyr sy'n cynnig cynlluniau mawr gynnal y math hwn o ymgynghoriad cyn ymgeisio statudol cyn cyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae'n bwysig egluro nad yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn rhan o'r broses hon. Felly, dylai trigolion ymateb yn uniongyrchol i’r datblygwr (ERI Reclamation) ac nid yr Awdurdod Cynllunio Lleol os ydyn nhw’n dymuno am eu sylwadau gael sylw fel rhan o’r broses ymgynghori cyn ymgeisio hon.

Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, yn awyddus i roi sicrwydd i drigolion lleol, “Os yw cais cynllunio ffurfiol yn dod i law, yna, bydd ymgynghoriad priodol fel bod holl randdeiliaid y gymuned yn cael y cyfle i roi adborth cyn i’r mater gael ei benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio.”  

“Rydw i’n gobeithio y bydd hyn yn helpu i egluro’r sefyllfa bresennol a gallwch chi fod yn sicr y byddai unrhyw gynllun o’r fath yn destun craffu cadarn ac amrywiaeth o amodau a mesurau rheoli i leihau effaith unrhyw waith arfaethedig,” ychwanegodd.



Ymholiadau'r Cyfryngau