News Centre

Cadwch y Dyddiadau! Mae rhaglen ddigwyddiadau helaeth y Cyngor ar gyfer 2024-25 ar gael nawr

Postiwyd ar : 22 Ion 2024

Cadwch y Dyddiadau! Mae rhaglen ddigwyddiadau helaeth y Cyngor ar gyfer 2024-25 ar gael nawr
Mae'n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyflwyno ei amserlen ddigwyddiadau helaeth ar gyfer 2024–25, sy'n cynnwys amrywiaeth eang o ddigwyddiadau difyr sydd wedi'u cynllunio i ddarparu rhywbeth i bawb.

Yn rhan o'r rhaglen eleni, bydd sawl digwyddiad poblogaidd yn dychwelyd o'r gwanwyn ymlaen.

Cadwch y dyddiadau! Dyma’r dyddiadau allweddol i’w cofio:
 
Digwyddiadau'r Gwanwyn Dyddiad
Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach Dydd Sadwrn 23 Mawrth 2024
Ffair y Gwanwyn, Coed Duon Dydd Sadwrn 13 Ebrill 2024
Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili Dydd Sadwrn 27 Ebrill 2024
Ffair Fai Bargod Dydd Sadwrn 4 Mai 2024
10 Cilomedr Caerffili Dydd Sul 12 Mai 2024
Digwyddiadau'r Haf Dyddiad
Parti Traeth Rhisga Dydd Sadwrn 8 Mehefin – Dydd Sul 9 Mehefin 2024
Pride Caerffili Dydd Sadwrn 15 Mehefin 2024
Digwyddiad Haf Bargod (teitl swyddogol i'w gadarnhau) Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf 2024
Parti Traeth Coed Duon Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2024
Gŵyl y Caws Bach Dydd Sadwrn 31 Awst – Dydd Sul 1 Medi 2024
Digwyddiadau'r Hydref/Gaeaf Dyddiad
Gŵyl Fwyd Rhisga (teitl swyddogol i'w gadarnhau) Dydd Sadwrn 14 Medi 2024
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach Dydd Sadwrn 16 Tachwedd 2024
Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni
(Canolfan Gymunedol y Twyn)
Dydd Sadwrn 16 a dydd Sul 17 Tachwedd 2024, a dydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 Tachwedd 2024
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Coed Duon Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni a Sioe Tân Gwyllt Dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024
Gweithdai Gwneud Llusernau Bargod Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024, a dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Bargod, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024
2025 Dyddiad
Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach Dydd Sadwrn 22 Mawrth 2025
 
Mae'r rhaglen fwy hon o ddigwyddiadau nid yn unig yn darparu adloniant i ymwelwyr, ond hefyd yn cynorthwyo busnesau lleol drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol ein trefi. Mae’r Cyngor yn ymestyn ei werthfawrogiad i’r noddwyr, partneriaid, i bob un o’r Cynghorau Tref a’r gymuned leol am eu cymorth amhrisiadwy, sy’n gwneud y digwyddiadau hyn yn bosibl.

Fe wnaeth ein rhaglen digwyddiadau ddenu dros 85,000 o ymwelwyr i drefi ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili y llynedd, ac mae disgwyl i'r rhaglen digwyddiadau ar gyfer 2024 fod hyd yn oed yn fwy ac yn well, felly beth am wneud cais am gael eich stondin eich hun? Os yw hyn o ddiddordeb i chi, gofynnwch am ffurflen gais drwy anfon e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
 
Cadwch y dyddiadau er mwyn bod yn rhan o'r flwyddyn anhygoel sydd i ddod! I gael rhagor o wybodaeth a diweddariadau rheolaidd am ddigwyddiadau, ewch i’n gwefan ni yn https://www.visitcaerphilly.com/cy/


Ymholiadau'r Cyfryngau