News Centre

Atgoffa trigolion i roi eu barn ar Bolisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl

Postiwyd ar : 12 Ion 2024

Atgoffa trigolion i roi eu barn ar Bolisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa trigolion i roi eu barn ar Bolisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i’r Anabl.
 
Bydd y polisi newydd yn nodi blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer tai'r sector preifat ac yn cynnwys cynlluniau i ddarparu cynhyrchion cymorth ariannol i helpu perchnogion preifat (gan gynnwys landlordiaid y sector preifat) a deiliaid contract (tenantiaid yn gynt) i atgyweirio, cynnal a chadw neu addasu eu cartrefi nhw. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am ddull y Cyngor o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi.
 
Mae gofyn i breswylwyr a rhanddeiliaid ddweud eu dweud ar y polisi arfaethedig drwy fynd i: Ymgynghoriad ar Bolisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl 2024 | Sgwrs Caerffili. Bydd yr Ymgynghoriad yn cau ar 7 Chwefror.
 
Am ragor o wybodaeth neu i unrhyw un a hoffai fod yn rhan o ddatblygu'r strategaeth, cysylltwch â'r Cyngor yn TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 811378.


Ymholiadau'r Cyfryngau