News Centre

Gofyn i drigolion roi eu barn ar gynlluniau adfywio Coed Duon

Postiwyd ar : 04 Ion 2024

Gofyn i drigolion roi eu barn ar gynlluniau adfywio Coed Duon
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gofyn i drigolion roi eu barn ar gynlluniau adfywio uchelgeisiol ar gyfer tref Coed Duon a'r ardal gyfagos.

Mae ‘Uwchgynllun Drafft Coed Duon Fwyaf’ yn nodi cyfleoedd datblygu ac adfywio yn yr ardal. Mae'n ceisio cryfhau'r economi a gwella amodau diwylliannol, amgylcheddol a chymdeithasol i drigolion ac ymwelwyr. Mae’r Uwchgynllun yn nodi amcanion arfaethedig er mwyn cyflawni hyn, gan gynnwys:
  • Diogelu a gwella statws Coed Duon Fwyaf fel canolfan gyflogaeth isranbarthol.
  • Sefydlu canol tref Coed Duon fel canolbwynt isranbarthol sy’n ddeniadol, yn hygyrch ac yn brysur yn ystod y dydd a’r nos.
  • Ehangu ac amrywio'r economi ymwelwyr.
  • Gwella cysylltiadau trafnidiaeth o fewn Coed Duon Fwyaf a thu hwnt iddo.
  • Hyrwyddo lles trwy wella neu greu cyfleusterau cymunedol cynaliadwy.
  • Darparu tai a fydd yn diwallu anghenion lleol mewn lleoliadau cynaliadwy.

I ddweud eich dweud ar Uwchgynllun Drafft Coed Duon Fwyaf ewch i Uwchgynllun Drafft Coed Duon Fwyaf | Sgwrs Caerffili. Hefyd, mae copïau papur o'r arolwg ar gael ym mhob llyfrgell yn ardal yr uwchgynllun. Bydd yr ymgynghoriad yn cau am hanner nos ddydd Mercher 14 Chwefror.

Am ragor o wybodaeth am yr uwchgynllun, ffoniwch 01443 866766 neu anfon e-bost i adfywio@caerffili.gov.uk

 


Ymholiadau'r Cyfryngau