News Centre

Datganiad i'r Wasg – 10 Cilomedr Caerffili

Postiwyd ar : 23 Ion 2024

Datganiad i'r Wasg – 10 Cilomedr Caerffili
Cofrestrwch nawr ar gyfer rasys 10 cilomedr a 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows 2024! Bydd ras 10 cilomedr Caerffili Bryn Meadows yn dychwelyd ddydd Sul 12 Mai 2024, yn ogystal â ras hwyl 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows.
Cofrestrwch nawr ar gyfer rasys 10 cilomedr a 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows 2024!

Bydd ras 10 cilomedr Caerffili Bryn Meadows yn dychwelyd ddydd Sul 12 Mai 2024, yn ogystal â ras hwyl 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows.

Mae mis Mai yn agosáu'n gyflym, ac mae'r broses gofrestru nawr ar agor i gadw eich lle ar gyfer 2024. P'un a ydych chi am gymryd rhan yn eich ras gyntaf, yn rhedwr profiadol neu dim ond yn caru rhedeg, ymunwch â ni a chofrestru heddiw.

A hithau'n digwydd yng nghysgod castell trawiadol Caerffili, bydd ras 10 cilomedr Caerffili Bryn Meadows yn dechrau ac yn gorffen ar Crescent Road. Bydd y cwrs yn arwain rhedwyr drwy ganol tref Caerffili, ac o'i chwmpas, gan fynd heibio tirnodau eiconig ar hyd cwrs gweddol wastad gyda rhai mannau tonnog. Bydd y cerflun caws enfawr, cerflun Tommy Cooper a'r castell canoloesol yn gefndir syfrdanol i'r digwyddiad.

Cafodd record y cwrs ei gosod gan Dewi Griffiths yn 2022, a groesodd y llinell derfyn mewn 29 munud a 39 eiliad. Mae disgwyl i nifer o redwyr elitaidd a chystadleuol geisio gwella ar y record yn 2024.

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad yn 2023, dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Roedd yn wych gweld cynifer o bobl o bob cwr o'r rhanbarth yn dod at ei gilydd i gymryd rhan yn rasys 10 cilomedr a 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows. Mae'r digwyddiad yn cefnogi ein gweledigaeth o gael mwy o bobl, yn fwy egnïol, yn fwy aml. Rydyn ni'n gobeithio gweld pawb eto y flwyddyn yma!”

Bydd rhagor o wybodaeth am bryd mae disgwyl pecynnau rasio, gwybodaeth am gau ffyrdd a manylion gweithredu eraill yn cael eu rhannu yn nes at amser y digwyddiad. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, ewch i'r wefan sy'n darparu Cwestiynau Cyffredin wedi'u diweddaru am y digwyddiad.

Cofrestrwch nawr: www.caerphilly10k.co.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau