News Centre

Dyddiad swyddogol wedi ei osod ar gyfer lansio Ffos Caerffili

Postiwyd ar : 23 Ion 2024

Dyddiad swyddogol wedi ei osod ar gyfer lansio Ffos Caerffili
Heddiw, mae Ffos Caerffili - marchnad steil cynwysyddion Caerffili - wedi datgelu ei fasnachwyr cyntaf cyn lansiad swyddogol y lleoliad ar ddydd Gwener, Mawrth 15.
 
Bydd y farchnad, sydd â ffocws ar y gymuned, yn ganolbwynt bywiog i’r dref ac yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035, gyda chymorth ariannol gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
 
Bydd y farchnad yn gweld llawer o wynebau cyfarwydd Caerffili yn cyfarfod o dan yr un to, gan gynnwys masnachwyr o’r hen farchnad ar Stryd Pentre-baen – fel Cath a Paul Livermore o gigydd teuluol Upmarket Butchers, a fydd yn agor siop bysgod yn Ffos Caerffili.

Dywedodd Cath: “Ffos Caerffili yw’r lle delfrydol i lansio cangen newydd i’r busnes. Mae agor y farchnad yn rhoi cymaint o gyfle gwych i'r dref yr ydym yn ei charu i gael ychydig o ddechrau newydd.
 
“Rydym yn gyffrous iawn i ymuno â chymaint o fusnesau lleol eraill a dod â rhywbeth newydd i Gaerffili.”
 
Mae’r busnesau lleol eraill sydd am ymgartrefu yn Ffos Caerffili yn cynnwys Two Shot Social, menter coffi a brunch newydd gan ffrindiau a aned ac a fagwyd yng Nghaerffili, sef Daf Carter ac Ian Butterworth.
 
Ar ôl blynyddoedd o fod eisiau agor siop goffi gyda’i gilydd, mae prosiect adfywio Tref Caerffili 2035 wedi caniatáu iddynt wireddu’r freuddwyd honno.
 
Dywedodd Daf: “Cael y cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’n cymuned leol ddenodd ni i Ffos Caerffili.
 
“Ry’n ni eisoes wedi gweld cymaint o welliannau i Gaerffili ers i’r prosiect adfywio ddechrau, ac ry’n ni’n gyffrous iawn i fod yn rhan ohono a dod â rhywbeth ffres, newydd a modern i’n tref enedigol.”
 
Mae Bab Haus enwog o Fedwas yn dod â'u bwyd stryd Califfornaidd a Mecsicanaidd adnabyddus i Ffos Caerffili.
 
Dan arweiniad Leyli Homayoonfar – un o’r 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Lletygarwch 2021/22 CODE – mae Bab Haus wedi dod yn wir sefydliad bwyd stryd, gyda Ffos Caerffili ar fin cynnal eu pedwerydd safle yn ne Cymru.



Sefydlodd Leyli, a aned yng Nghaerdydd, y Bab Haus cyntaf ym Medwas yn 2018 ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny, gyda lleoliadau ychwanegol bellach yng Nghasnewydd a’r Barri.
 
Dywedodd Leyli: “Ry’n ni mor gyffrous i agor yn Ffos Caerffili – mae’r golygfeydd o’n huned tuag at y castell yn anhygoel.
 
“Yn ystod y cyfnod clo, ein cegin yn Bedwas oedd yr unig un gafodd ganiatád i agor ar gyfer darparu pecynnau bwyd cartref, ac rydym bob amser wedi cael cymaint o groeso gan y bobl yma yng Nghaerffili.
 
“Dwi wedi bod yn aros am yr amser iawn i ddod â rhywbeth mwy parhaol i’r dref, ac mae Ffos Caerffili yn gyfle perffaith i ddod â Bab Haus i’r gymuned sydd wedi ein cefnogi cystal.”
 
Bydd 28 o fasnachwyr yn Ffos Caerffili, gan gynnwys Cath, Ian, a Leyli, gan amrywio o fanwerthwyr a siopau bwyd a diod i swyddfeydd.
 
Mae Ffos Caerffili yn rhan allweddol o Gynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035 y cyngor, sydd â’r nod o adfywio canol y dref a denu mwy o ymwelwyr. Mae'r Cyngor wedi ymgysylltu â'r gymuned bob cam o'r ffordd, gyda dros 350 o drigolion yn darparu adborth personol ar y cynlluniau ar gyfer y dref.
 
Mae’r cynllun wedi’i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n biler canolog yn agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU.
 
Bydd y farchnad yn agor yn swyddogol i’r cyhoedd ddydd Gwener, Mawrth 15, gyda chynlluniau ar y gweill ar gyfer rhaglen o ddigwyddiadau i’r teulu gan gynnwys cerddoriaeth fyw, gweithgareddau, llawer o hwyl, a hynny i gyd wrth fwynhau’r bwyd a diod gorau gan y masnachwyr lleol wrth edmygu golygfeydd o Gastell Caerffili.
 
Nid yw'r datblygiad wedi bod heb ei heriau, gyda'r cyngor yn cydnabod bod oedi anochel yn yr adeiladu wedi effeithio ar eu dyddiad agor gwreiddiol uchelgeisiol.
 
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: “Mae nifer o heriau anodd wedi’u goresgyn er mwyn datblygu Ffos Caerffili, ond rwy’n falch bod dyddiad agor swyddogol bellach wedi’i osod.
 
“Bydd y datblygiad hwn yn creu 40 i 50 o swyddi, yn cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r dref ac yn darparu profiad cwbl newydd i bobl sy’n dod i Gaerffili.
 
“Bydd Ffos Caerffili yn atyniad newydd yng nghanol y dref, gan ddarparu cyfleoedd i gwrdd, siopa a gweithio yng nghanol Caerffili. Ry’n ni i gyd yn gyffrous i ddangos ein cefnogaeth i’r masnachwyr newydd ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw ar gyfer y dyfodol!”
 
Cyhoeddir y rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau lansio maes o law.


Ymholiadau'r Cyfryngau