Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ionawr 2024
Hwb Llyfrgell Rhymni sydd newydd ei ailwampio yn agor ei ddrysau
News Centre
Hwb Llyfrgell Rhymni sydd newydd ei ailwampio yn agor ei ddrysau
Postiwyd ar : 08 Ion 2024
Fe wnaeth y Maer agor Hwb Llyfrgell Rhymni yn swyddogol heddiw, ddydd Llun 8 Ionawr, ar ôl gwaith ailwampio cyffrous diolch i gyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chronfa Trawsnewid Cyfalaf Llywodraeth Cymru.
Mae'r gwelliannau'n cynnwys ailwampio a moderneiddio dau lawr y llyfrgell, yn ogystal â hwb addysg, darllen a chymorth arloesol i drigolion, staff y Cyngor a sefydliadau partner.
Cafodd nifer o nodweddion a'r dyluniad newydd, sydd bellach ar gael at ddefnydd y gymuned, eu penderfynu yn sgil cynnal arolwg Llais y Gymuned gyda thrigolion lleol.
Mae Hwb Llyfrgell Rhymni yn cynnig amgylchedd cymorth cyfannol gan ganiatáu pwynt mynediad i'n trigolion at wasanaethau'r Cyngor. Bydd amrywiaeth o wasanaethau cymorth y Cyngor ar gael i chi siarad â nhw, gan gynnwys Gofalu am Gaerffili, Tîm Treth y Cyngor, Tîm Budd-daliadau'r Cyngor a'r Tîm Ymgysylltu â Chyflogaeth.
Gall cwsmeriaid elwa o fand eang wedi'i uwchraddio, swyddfeydd modern ac ystafelloedd cyfarfod preifat. Mae’r llawr cyntaf wedi’i ddatblygu’n ‘Hwb Dysgu Cymunedol Idris Davies’ sy’n cynnwys gofod dysgu bywiog o’r radd flaenaf a fydd yn dod yn ganolbwynt i barhau i gefnogi’r Gymraeg a Diwylliant Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Chymunedau, “Rydw i wrth fy modd bod Hwb Llyfrgell Rhymni wedi ailagor a bod trigolion y Fwrdeistref Sirol yn gallu manteisio ar y buddion ychwanegol y bydd Hwb Llyfrgell Rhymni yn eu darparu i’r gymuned leol.
“Yn ogystal â'r llyfrgell wych, bydd trigolion yn gallu manteisio ar fynediad at nifer o wasanaethau cymorth y Cyngor. Yn hanesyddol, mae Llyfrgell Rhymni wedi bod yn ganolbwynt i’r gymuned erioed, ond bydd y gwelliannau i’r cyfleuster nawr yn caniatáu i’r adnodd hollbwysig hwn ddod yn gymaint mwy.”
Mae Hwb Llyfrgell Rhymni wedi ailagor heb lifft gweithredol. I'r rhai sydd â symudedd cyfyngedig, bydd gwasanaethau'n cael eu symud i'r llawr gwaelod yn ôl yr angen nes bod y lifft newydd wedi cael ei osod.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y