News Centre

Dweud eich dweud ynglŷn â rheoli llifogydd

Postiwyd ar : 23 Ion 2024

Dweud eich dweud ynglŷn â rheoli llifogydd
Arwydd ffordd rhybudd llifogydd mewn dŵr.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili eisiau eich barn chi ar ein Strategaeth Ddrafft ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd.

Yn 2013, bu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch i ddadorchuddio ein Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd (SLRhPLl) gyntaf. Mae degawd wedi mynd heibio ers hynny, ac mae’r dirwedd rheoli perygl llifogydd wedi esblygu’n sylweddol. Mae newidiadau mewn strategaeth genedlaethol, cyflwyno deddfwriaeth a chanllawiau newydd, a'r gwersi amhrisiadwy rydyn ni wedi'u dysgu dros y deng mlynedd diwethaf yn golygu bod angen diweddaru ein strategaeth.

Mae'n ofyniad statudol i bob Awdurdod Lleol lunio Strategaeth Leol sy'n cyd-fynd â'r Nodau ac Amcanion Cenedlaethol sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac yn eu cefnogi. Wrth i ni sefyll ar drothwy cwblhau ein Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd ddiweddaraf, mae'n hanfodol i ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC) glywed gennych chi. Rydyn ni’n lansio'r cam olaf hwn o ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu mewnwelediadau gan ein preswylwyr a rhanddeiliaid. Mae eich adborth yn arbennig o hanfodol os yw rheoli perygl llifogydd yn effeithio'n uniongyrchol arnoch chi neu os oes gennych chi ddiddordeb yn y gwaith hwnnw.

Cwblhewch yr arolwg ar-lein(Dolen allanol)

Mae copi o'r arolwg a gwybodaeth ategol hefyd ar gael yn eich Llyfrgell agosaf.

Ymhellach, rydym yn cynnal sesiynau cerdded i mewn yn y llyfrgelloedd canlynol ar y dyddiadau a restrir isod os hoffech siarad â ni am ein Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol Drafft.

  • 25 Lonawr 2024 yn Llyfrgell Rhymni, Heol Fictoria, Rhymni, NP22 5NU
  • 1 Chwefror 2024 yn Llyfrgell Risga, Uned B, Palas Rhisga, 75 Stryd Tredegar, Rhisga, NP11 6BW
  • 8 Chwefror 2024 yn Llyfrgell Caerffili, 2, Y Twyn, Caerffili, CF83 1JL

Gall unrhyw randdeiliad sy’n dymuno trafod y cam olaf hwn o’r ymgynghoriad wneud hynny drwy gysylltu â draenio@caerffili.gov.uk (Dolen allanol) neu ffonio 01495235796 (Max Nebe) / 07701020205 (Mark Goodger).



Ymholiadau'r Cyfryngau