Dweud eich dweud ar gynlluniau cyllideb
Postiwyd ar : 17 Ion 2024
Mae trigolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar gynlluniau cyllideb y Cyngor ar gyfer 2024/25.
Cytunodd Cabinet y Cyngor ar ei gynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft yr wythnos hon (dydd Mercher 17 Ionawr) a bydd pobl leol bellach yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ymarfer ymgynghori sylweddol i roi adborth.
Mae rhai o’r cynigion allweddol yn cynnwys:
- Cynnydd 6.9% arfaethedig yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2024/25
- £19.5 miliwn o arbedion parhaol
- £11.4 miliwn o arbedion dros dro
- Defnyddio £11.3 miliwn o gronfeydd wrth gefn y Cyngor tuag at arbedion
“Dros y 3 blynedd nesaf, mae Caerffili yn wynebu diffyg cyllidebol o tua £66 miliwn, felly, mae angen i ni wneud rhai newidiadau sylweddol er mwyn llenwi’r bwlch enfawr hwn yn y gyllideb. Mae’n bwysig bod pobl leol yn cael y cyfle i ddweud eu dweud ar ein cynlluniau a byddwn i'n annog pawb i gymryd rhan,” meddai’r Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor.
Bydd arolwg arbennig yn agor i'r cyhoedd ddydd Llun 22 Ionawr ac yn rhedeg tan 13 Chwefror. https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/pennu-cyllideb-y-cyngor-2024-2025
Hefyd, bydd nifer o sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae croeso i breswylwyr alw i mewn am sgwrs gydag aelod o dîm ymgysylltu’r Cyngor yn y lleoliadau canlynol:
Dyddiad: |
Lleoliad: |
Amser: |
Dydd Llun 29 Ionawr |
Llyfrgell Nelson |
10.00am-12.00pm |
Dydd Mawrth 30 Ionawr |
Llyfrgell Bargod |
4.30pm-6.30pm |
Dydd Mawrth 30 Ionawr |
Llyfrgell Coed Duon |
10.00am–12.00pm |
Dydd Iau 1 Chwefror |
Llyfrgell Ystrad Mynach |
10.00am-12.00pm |
Dydd Llun 5 Chwefror |
Llyfrgell Rhymni |
10.00am-12.00pm |
Dydd Mercher 7 Chwefror |
Llyfrgell Rhisga |
3.00pm-5.00pm |
Dydd Iau 8 Chwefror |
Lyfrgell Trecelyn |
10.00am-12.00pm |
Dydd Gwener 9 Chwefror |
Llyfrgell Caerffili |
11.00am-1.00pm |
Yn ogystal, mae dwy sesiwn galw heibio ar-lein wedi'u trefnu:
- Dydd Mercher 31 Ionawr 11.00am-12.00pm – ar-lein
- Dydd Iau 8 Chwefror 2.00pm-3.00pm – ar-lein
Mae gofyn i drigolion sy'n dymuno mynychu un o'r sesiynau ar-lein e-bostio YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk gyda'r dyddiad sydd well gennych chi, a bydd dolen i fynychu'r sesiwn ar-lein yn cael ei darparu.
Mae gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r sesiynau galw heibio, gysylltu â’r tîm ar YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864380.