News Centre

Coroni Ellie Welsh yn athro nofio'r flwyddyn Nofio Cymru 2024

Postiwyd ar : 31 Ion 2024

Coroni Ellie Welsh yn athro nofio'r flwyddyn Nofio Cymru 2024
Mae Dull Byw Hamdden yn falch o gyhoeddi bod Ellie Welsh, aelod o dîm Canolfan Hamdden Cefn Fforest, wedi’i hanrhydeddu â theitl mawreddog athro nofio’r flwyddyn Nofio Cymru 2024. Cafodd Ellie’r gydnabyddiaeth werthfawr hon yn y seremoni wobrwyo a gafodd ei chynnal ddydd Sadwrn 20 Ionawr yng Nghaerdydd.
Mae Dull Byw Hamdden yn falch o gyhoeddi bod Ellie Welsh, aelod o dîm Canolfan Hamdden Cefn Fforest, wedi’i hanrhydeddu â theitl mawreddog athro nofio’r flwyddyn Nofio Cymru 2024. Cafodd Ellie’r gydnabyddiaeth werthfawr hon yn y seremoni wobrwyo a gafodd ei chynnal ddydd Sadwrn 20 Ionawr yng Nghaerdydd. 

Mae’r wobr yn dyst i ymrwymiad cyson Ellie i ddarparu gwersi nofio heb eu tebyg wythnos ar ôl wythnos. Mae ei hysgogiad i godi safonau a'i hymroddiad i gyflwyno profiad dysgu o'r ansawdd gorau wedi ei gosod hi uwchlaw pawb arall. Mae’r gydnabyddiaeth yn amlygu gallu eithriadol Ellie i fynd yr ail filltir, gan sicrhau bod ei disgyblion yn cael yr addysg orau posibl yn y dŵr. 

Mae effaith Ellie yn ei chategori yn ymestyn y tu hwnt i nodweddion technegol nofio. Mae hi wedi gwella galluoedd nofio a chynyddu hyder plant ac oedolion yn gyson. Mae ei hymdrechion rhyfeddol yn mynd y tu hwnt i ymyl y pwll, gan feithrin amgylchedd cynhwysol sy'n caniatáu i bawb fwynhau, cymryd rhan, dysgu, a hyd yn oed gystadlu mewn campau dŵr. Mae hyblygrwydd Ellie yn amlwg gan ei bod hi'n teilwra ei gwersi i ddiwallu anghenion amrywiol y dysgwyr, gan gynnwys y rhai ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol. 

Ynghyd â llwyddiant Ellie, mae cydnabyddiaeth arbennig yn cael ei roi i Jayne Evans o Ganolfan Hamdden Caerffili, a ddaeth yn ail ar gyfer y wobr fawreddog. Mae brwdfrydedd heintus Jayne a’i dulliau addysgu arloesol yn ei hamlygu fel athrawes nofio hynod. Mae ei dulliau unigryw, gan gynnwys arddangosiadau ymarferol ar ochr y pwll, nid yn unig wedi ysbrydoli nofwyr ifanc ond hefyd wedi eu gwthio nhw o fod yn ddechreuwyr i fod yn gystadleuwyr nofio mewn dŵr agored. Mae cyffyrddiad personol ac ymroddiad Jayne yn ei gwneud hi'n ffigwr penigamp ymhlith athrawon nofio yng Nghymru.

Mae Dull Byw Hamdden yn falch o nodi bod gan Fwrdeistref Sirol Caerffili fwy o enwebeion nag unrhyw ran arall o Gymru ac rydyn ni’n ymfalchïo’n fawr wrth ddathlu llwyddiannau Ellie Welsh a Jayne Evans. Mae eu hymrwymiad i ragoriaeth yn cyd-fynd yn berffaith â’n hymgais i ddarparu profiadau hamdden eithriadol i unigolion o bob oedran a chyflawni’r uchelgeisiau sydd wedi'u nodi yn y Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol.


Ymholiadau'r Cyfryngau