News Centre

Nodyn Atgoffa am Ganllawiau Mynwentydd

Postiwyd ar : 30 Ion 2024

Nodyn Atgoffa am Ganllawiau Mynwentydd
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Reoliadau Mynwentydd hirsefydlog i’n galluogi ni i reoli a chynnal urddas a sancteiddrwydd ein mynwentydd yn effeithiol. Mae'r rheoliadau hyn wedi'u llunio i hysbysu holl ddefnyddwyr y fynwent am y gofynion rhesymol sy'n berthnasol iddyn nhw. Nod y canllawiau hyn yw cadw ymwelwyr â mynwentydd yn ddiogel, gan hefyd yn parchu’r ymadawedig.
 
Yn y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi profi mwy o ddigwyddiadau yn ein mynwentydd. Mae hwn yn ein hatgoffa ni o'r rheoliadau ar yr hyn sy'n dderbyniol a pham.
 
Mewn llawer o'n mynwentydd, mae gennym ni bolisi lawnt sy'n golygu mai dim ond y gofeb sy'n dderbyniol ar ben y bedd. Yn anffodus, mae hyn yn golygu bod eitemau fel:
- Rheiliau/ffensys
- Cyrbau
- Llwyni/Coed
- Cerrig mân

Ddim yn dderbyniol. Mae'r eitemau hyn yn cyfyngu'n uniongyrchol ar fynediad ymwelwyr eraill ac yn atal staff y Cyngor rhag gwneud gwaith cynnal a chadw arferol yn ddiogel.
 
Mae rhagor o fanylion am gynnal a chadw ein mynwentydd ar-lein yma: https://www.caerffili.gov.uk/services/births,-marriages,-deaths/bereavement-services/cemeteries?lang=cy-gb
 
Er ein bod ni'n cydnabod bod mynwentydd yn cynnig lle i gofio a myfyrio, mae’n bwysig dangos parch tuag at eraill a dilyn y canllawiau i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at ein mynwentydd. Mae parchu'r canllawiau hyn hefyd yn galluogi staff i gynnal y cyfleusterau hyn i'r safonau uchel rydyn ni'n anelu atyn nhw.
 
Er mwyn ein helpu ni i gynnal y safonau hyn, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cysylltu â pherchnogion beddau cofrestredig os nad yw bedd yn cydymffurfio â'r polisi wedi'i gytuno ac yn gofyn â pharch i unrhyw eitemau anawdurdodedig gael eu symud. Mae’r polisi yn sicrhau modd cynnal a chadw ein mynwentydd yn ddiogel a bod urddas yr ymadawedig yn cael ei barchu.
 
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch y polisi, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Profedigaeth gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod:
 
Ffôn: 01443 811457 (oriau swyddfa: Dydd Llun – dydd Iau 8.30am–4.30pm a dydd Gwener 8.30am–4.00pm. Mae'r swyddfa ar gau ar Wyliau’r Banc.)
 
E-bost: GwasanaethauProfedigaeth@caerffili.gov.uk
 
Gwefan: https://www.caerffili.gov.uk/services/births,-marriages,-deaths/bereavement-services/cemeteries?lang=cy-gb
 


Ymholiadau'r Cyfryngau