News Centre

Mannau gwyrdd Caerffili i barhau i ffynnu

Postiwyd ar : 19 Ion 2024

Mannau gwyrdd Caerffili i barhau i ffynnu
Bydd mannau gwyrdd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i ffynnu eleni, ar ôl i'r Cabinet gytuno ar drefniadau gwaith torri gwair sy'n hyrwyddo bioamrywiaeth.
 
Fe wnaeth aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gytuno ar barhau i dorri gwair ar hyd lleiniau ymylon priffyrdd a ffyrdd osgoi cyn lleied â phosibl, yn unol â chanllawiau Traffig Cymru.
 
Bydd amlder y gwaith torri gwair yn parhau fel y mae ar hyn o bryd yn achos lleiniau gwelededd a llinellau gweld ar briffyrdd, ymylon a mynediad ar droedffyrdd/llwybrau beicio, meysydd chwaraeon, mannau trefol megis ystadau tai, parciau dinesig, llety pobl hŷn, mynwentydd, a mannau agored cyhoeddus ar gyfer chwarae/hamdden.
 
Hefyd, fe wnaeth y Cabinet ymrwymo i barhau i gefnogi'r prosiect ‘Natur Wyllt’ a sefydlu dull rheoli cydgysylltiedig o ran mannau gwyrdd i greu cynefinoedd llawn blodau gwyllt ar draws ardaloedd awdurdodau lleol Gwent.
 
Cafodd rhestr o fannau a fydd yn cael ffynnu yn ystod yr haf, ynghyd â chynlluniau i ddatblygu a gwella mannau drwy ddefnyddio hadau blodau gwyllt, hefyd eu derbyn.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor  sydd â chyfrifoldeb am Fannau Gwyrdd, “Rydyn ni'n deall pwysigrwydd cael cydbwysedd rhwng annog bioamrywiaeth a darparu mannau gwyrdd hygyrch. Mae'r drefn bresennol o ran torri gwair, sydd wedi'i datblygu drwy ymgynghori â'r gymuned, yn ceisio cyflawni hyn.
 
“Yn ogystal â hyrwyddo bioamrywiaeth drwy ein dull o reoli mannau gwyrdd, bydd hefyd yn helpu lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, sef ymrwymiad a gafodd ei wneud pan wnaeth y Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019.”


Ymholiadau'r Cyfryngau