Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ionawr 2024
Straeon gofalwyr maeth Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dangos y gall pawb gynnig rhywbeth a chynorthw
News Centre
Straeon gofalwyr maeth Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dangos y gall pawb gynnig rhywbeth a chynorthwyo plant mewn gofal yng Nghymru.
Postiwyd ar : 09 Ion 2024
Nod yr ymgyrch genedlaethol yw ysbrydoli pobl o bob cefndir i ystyried maethu gydag awdurdod lleol.
Mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.
Ar hyn o bryd, mae 100 o ofalwyr maeth yng Nghaerffili ond mae angen mwy na 50 o ofalwyr ychwanegol, gan gynnwys gofalwyr tymor hir, tymor byr a brys.
Heddiw, aeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, ati gyda’r nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth erbyn 2026, i ddarparu cartrefi diogel i bobl ifanc lleol.
Mae Maethu Cymru Caerffili wedi ymuno â’r ymgyrch newydd, ‘gall pawb gynnig rhywbeth,’ gan ddefnyddio eu hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio’r nodweddion dynol bach ond arwyddocaol sydd gan bobl a all wneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal.
Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl i ddatblygu’r ymgyrch – gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd, a’r rhai sy’n gadael gofal.
Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol a oedd yn atal darpar ofalwyr rhag ymholi:
Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.
Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.
Gyda’r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu awdurdodau lleol yn hyblyg, yn gynhwysol, ac yn dod â chyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol helaeth.
“Roedd gennym ni eisoes yr holl sgiliau oedd eu hangen arnom i ddod yn ofalwyr maeth – ac mae angen i fwy o bobl wybod bod ganddyn nhw’r sgiliau hefyd”
Dywedodd Kath, un o ofalwyr maeth Caerffili, “Mae bod yn ofalwr maeth yn golygu y gallwch chi newid bywyd person ifanc. Gallwch chi roi cyfle iddyn nhw gael bywyd teuluol am y tro cyntaf, dangos iddyn nhw sut mae bywyd yn gallu bod ac, os ydyn nhw'n gweithio'n galed, y gallan nhw gyflawni pethau da fel oedolion. Gallan nhw fod yn rhan o rywbeth da sy'n rhoi diogelwch, sefydlogrwydd a chariad iddyn nhw. Pa swydd arall sy'n gallu gwneud hynny?”
Mae Cymru ar flaen y gad ym maes gwasanaethau plant
Ar hyn o bryd, mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.
Gwnaeth y newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’.
Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw, ac mae’r angen am ofalwyr maeth awdurdodau lleol yn fwy nag erioed.
Dywedodd Gareth Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Plant, “Yn nhîm Maethu Cymru Caerffili, mae ein gofalwyr maeth yn wych wrth gynorthwyo rhai o blant y Fwrdeistref Sirol sy’n fwyaf agored i niwed. Maen nhw'n garedig, yn empathig ac yn brofiadol ac yn gwneud gwaith gwych wrth wneud y rhai y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw deimlo'n ddiogel.
Mae angen inni recriwtio mwy o ofalwyr maeth i sicrhau bod pob un o’r plant sydd ei angen yn cael cartref cynnes a chroesawgar, gyda’r gofalwr maeth cywir ar eu cyfer.
Byddem ni'n annog unrhyw un sy’n meddwl y gallan nhw wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn drwy gynnig y caredigrwydd, yr empathi a’r profiad hwnnw a chysylltu â Maethu Cymru Caerffili a dechrau eu taith faethu nawr.”
Mae’r ymgyrch yn dechrau ddydd Llun 8 Ionawr ar draws teledu, gwasanaethau ffrydio, radio, digidol, cyfryngau cymdeithasol, a chyda digwyddiadau amrywiol mewn cymunedau lleol ledled Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i:
Maethu Cymru Caerffili
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y