News Centre

Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cytuno i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â’r Strategaeth Wastraff ddrafft

Postiwyd ar : 18 Ion 2024

Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cytuno i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â’r Strategaeth Wastraff ddrafft
Mewn cyfarfod Cabinet a gafodd ei gynnal ddydd Mercher 17 Ionawr 2024, cytunodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar eu Strategaeth Wastraff ddrafft.

Gan adeiladu ar y Trywydd a gafodd ei amlinellu ym mis Mehefin 2023, mae'r Strategaeth yn nodi'r cyfeiriad strategol a'r cynllun hirdymor i sicrhau bod y Cyngor yn cyrraedd ei dargedau perfformiad statudol, ac yn rhagori arnyn nhw, wrth fod yn realistig ynghylch yr amserlenni a'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r uchelgeisiau hyn.

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru, ac mae Caerffili yn gweithio'n galed i sicrhau ei bod yn cyrraedd targed 2024/25 o 70%, yn ogystal â’r cyfraddau uwch byth ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

Yn hanesyddol, roedd Caerffili wedi perfformio'n dda gan gyflawni cyfradd ailgylchu o 66.7% yn 2017/18, ond mae wedi dirywio ers hynny, gyda chyfradd ailgylchu o 60.69% yn 2022-23.

Mae'r Strategaeth yn seiliedig ar bum amcan strategol:
  • Lleihau cynnydd mewn gwastraff yn gyffredinol.
  • Cynyddu cyfraddau atgyweirio ac ailddefnyddio.
  • Cynyddu cyfran ac ansawdd y deunydd sy'n cael ei ailgylchu.
  • Optimeiddio cyfraniad at ynni adnewyddadwy a'r defnydd ohono.
  • Helpu ein trigolion ni i reoli gwastraff mewn modd mwy cynaliadwy.

O dan bob un o'r amcanion hyn mae cyfres o gamau gweithredu a fydd yn cael eu cyflawni.

Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau i’r ffordd mae ein Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi yn cael eu rheoli, parhau i gydweithio â sefydliadau partner i hyrwyddo atgyweirio ac ailddefnyddio, cyflwyno gwasanaeth casglu ailgylchu newydd sy’n cyd-fynd â Glasbrint Llywodraeth Cymru, a lleihau amlder casgliadau gwastraff gweddilliol ac archwilio opsiynau i gyflwyno fflyd o gerbydau allyriadau isel iawn. Bydd hyn i gyd yn digwydd gan ddefnyddio systemau TG newydd sy'n ymgorffori technoleg yn y cerbyd.

Meddai'r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, "Er ein bod ni'n ymwybodol bod ein dulliau Gwastraff ac Ailgylchu presennol yn cael eu ffafrio gan ein trigolion, rydyn ni'n wynebu targedau ailgylchu cenedlaethol heriol wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru ac, felly, rydyn ni'n cynnwys amrywiaeth o newidiadau yn ein strategaeth i sicrhau ein bod ni'n cynyddu faint o wastraff sy'n cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at adolygu barn ein trigolion ar y newidiadau arfaethedig ac yn annog pawb i gymryd rhan."

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cychwyn ar 5 Chwefror 2024 ac yn cael ei gynnal am gyfnod o 12 wythnos.

Bydd adroddiad pellach wedyn yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn ystod haf 2024 unwaith bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben a bod yr ymatebion wedi'u dadansoddi. Bydd yr adroddiad hwn yn nodi canlyniadau'r ymgynghoriad ac yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer mabwysiadu a chyhoeddi'r strategaeth wastraff ac ailgylchu derfynol.


Ymholiadau'r Cyfryngau