News Centre

Clirio ar ôl y Nadolig

Postiwyd ar : 06 Ion 2023

Clirio ar ôl y Nadolig
Mae'r oergell wedi'i gwagio, mae'r anrhegion wedi'u dosbarthu a'r addurniadau wedi'u dychwelyd i'r atig, ond mae'r tŷ yn dal i edrych ychydig yn orlawn… Mae'n amser clirio ar ôl y Nadolig.

Mis Ionawr yw'r amser perffaith i drefnu eich eiddo yn barod i ddechrau'r Flwyddyn Newydd ar lechen lân, ond ni ddylai hyn olygu ychwanegu at wastraff diangen.

Dyma rai o'n hawgrymiadau defnyddiol ar gyfer clirio ym mis Ionawr sy'n ymwybodol o'r amgylchedd.

Arbed – Mae popeth rydyn ni'n ei gynhyrchu a'i ddefnyddio yn cael effaith ar yr amgylchedd. Felly, gwneud penderfyniadau gofalus am ein heiddo yw'r brif ffordd i helpu'r amgylchedd. 

Yn ogystal, gall lleihau nifer y pethau rydyn ni'n eu prynu a chadw hefyd helpu i arbed amser, arian a helpu creu bywyd heb lanast.
 
Ailddefnyddio – Er na fyddwch chi eisiau neu angen eitem cartref bellach, efallai dyna'n union mae rhywun arall yn chwilio amdano. Mae rhoi eich eitemau ail-law i gael eu defnyddio yn ffordd gynaliadwy o gael gwared ar eich eiddo, gan hefyd eu rhoi at achos da. 
Mae Siop Ail-ddefnyddio Penallta yn rhoi'r cyfle perffaith i osgoi anfon eitemau o ansawdd dda, sydd dal yn addas i'w pwrpas, rhag mynd yn wastraff a'u rhoi nhw yn nwylo pobl sy'n gallu eu defnyddio, am bris gwych.
 
Rhagor o wybodaeth yma: www.caerffili.gov.uk/services/household-waste-and-recycling/recycle-and-reduce-waste/penallta-reuse-shop?lang=cy-gb
 
Ailgylchu – Os oes rhai eitemau gennych chi sydd ddim yn gallu cael eu hailddefnyddio neu'u rhoi, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael gwared arnyn nhw, drwy ailgylchu lle gallwch chi. 
Mae rhai o'r eitemau sy'n cael eu rhoi yn aml yn y bin anghywir yn cynnwys: canhwyllau, teganau a chrochenwaith. Does dim modd ailgylchu'r rhain, felly dylech chi eu rhoi nhw yng ngwastraff y’ cartref.
 
Atgyweirio – Yn y pen draw, bydd popeth rydyn ni'n ei brynu yn torri neu'n treulio. Pan fydd hyn yn digwydd, yn rhy aml, rydyn ni'n cael gwared ar yr eitem, ond mae hyn yn cynhyrchu llawer o wastraff diangen. 
Mae'n hawdd atgyweirio'r rhan fwyaf o eitemau, yn aml am ffracsiwn o bris amnewid yr eitem.
 
I ddod o hyd i fusnes atgyweirio lleol, ewch i'n Cyfeiriadur Atgyweirio ar-lein: www.caerffili.gov.uk/services/household-waste-and-recycling/repair?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau