News Centre

Y Cyngor yn lansio Mannau Croesawgar

Postiwyd ar : 12 Ion 2023

I gydnabod yr anawsterau mae trigolion yn eu hwynebu o ganlyniad i'r argyfwng costau byw ar hyn o bryd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mewn partneriaeth â'r gymuned a'r sector gwirfoddol, yn datblygu rhwydwaith o Fannau Croesawgar (neu Ganolfannau Clyd) ledled y Fwrdeistref Sirol.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Rydyn ni'n gwybod faint mae trigolion yn cael trafferth â'r cynnydd mewn costau cyffredinol yn barod, ac mae'r rhwydwaith hwn o Fannau Croesawgar yn rhan o'n hymateb ni.

“Gall pob Man Croesawgar edrych yn wahanol, p'un a ydyn nhw'n dewis cynnig gweithgareddau, cymorth neu hyd yn oed fwyd poeth a diod – ond bydd pob un yn rhannu'r ethos o gynnig lle cynnes ac wyneb cyfeillgar y gaeaf hwn. 

“Mae'r mannau hyn yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, neuaddau eglwysi, clybiau chwaraeon a mannau eraill sy'n addo croeso cynnes i unrhyw un sy'n cael trafferth gwresogi eu cartrefi.  Am restr lawn ewch i'n gwefan

“Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i helpu trigolion trwy'r argyfwng costau byw gwaethaf mewn cenhedlaeth. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid yn y sectorau tai, gwirfoddol, a chymunedol i wneud popeth y gallwn ni i helpu ein cymunedau.”

Os ydych chi'n cynrychioli grŵp cymunedol ac yn dymuno cael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn rhan o'n rhwydwaith Mannau Croesawgar, gan gynnwys pecyn cais am gyllid ychwanegol i gynorthwyo datblygiad eich Man Croesawgar, cysylltwch â'r tîm Gofalu am Gaerffili ar GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu 01443 811490.

Os ydych chi'n sefydliad sy'n cynnig Canolfan Glyd yn barod, dywedwch wrthym ni am eich cyfleusterau a'ch gwasanaethau drwy gysylltu â: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu 01443 811490 er mwyn i ni ychwanegu eich lleoliad at y cyfeiriadur a rhoi gwybod i drigolion amdanoch chi.

Mae Mannau Croesawgar ar gael i'w defnyddio am ddim a byddan nhw'n rhoi croeso cynnes i bawb.



Ymholiadau'r Cyfryngau