News Centre

Cymeradwyo rhaglen inswleiddio waliau allanol ar gyfer Bryn Carno, Rhymni

Postiwyd ar : 25 Ion 2023

Cymeradwyo rhaglen inswleiddio waliau allanol ar gyfer Bryn Carno, Rhymni
Heddiw (25 Ionawr), mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo arian cyfatebol i wneud gwaith insiwleiddio waliau allanol mewn 86 eiddo ym Mryn Carno, Rhymni.
 
Mae aelodau'r Cabinet wedi cymeradwyo cyfraniad cyllid gwerth £1.196 miliwn o Gyfrif Refeniw Tai'r Cyngor, gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid ychwanegol gwerth £1.903 miliwn i gyflawni'r gwaith ar gartrefi sy'n eiddo preifat.
 
Yn 2012, cafodd gwaith ei wneud ar y cartrefi fel rhan o gynllun wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, Arbed 1. Rhwng 2016 a 2018, daeth yn amlwg bod y deunydd inswleiddio waliau allanol yn ddiffygiol ac felly yn achosi i ddŵr fynd i mewn a lleithder treiddiol.
 
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymchwiliad a ddaeth i'r casgliad bod angen cynllun newydd i ddatrys y broblem ac ail-insiwleiddio'r cartrefi, er mwyn lleihau costau ynni i breswylwyr a lleihau allyriadau carbon.
 
Gan fod y Cyngor yn berchen ar 36 o'r 86 eiddo, cafodd ei benderfynu mai nhw fyddai yn y sefyllfa orau i fwrw ymlaen â'r cynllun newydd. Bydd cartrefi preifat hefyd yn cael budd o'r cynllun, gyda chymorth gwerth 100% yn cael ei gynnig.
 
Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai, “Roedd nifer o ffactorau wedi arwain at fethiant y deunydd insiwleiddio waliau allanol ac rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ddatrysiad. Bydd y cyllid hwn nawr yn galluogi gwneud gwaith i atal dirywiad pellach y cartrefi a gwella lles y preswylwyr.”
 


Ymholiadau'r Cyfryngau