News Centre

Trafodaeth Caerffili – Arolwg Cyflym #1

Postiwyd ar : 10 Ion 2023

Trafodaeth Caerffili – Arolwg Cyflym #1
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi elwa o gael trafodaeth trwy gydol y flwyddyn gyda thrigolion trwy ‘Drafodaeth Caerffili’.
 
Roedd yna adborth hynod ddiddorol yn ein trafodaeth ddiweddaraf o’r enw ‘Beth sy’n bwysig i chi?’, sy’n ein helpu i flaenoriaethu pa wasanaethau y dylai’r Cyngor ganolbwyntio arnyn nhw yn y dyfodol ac ar beth y dylai wario ei gyllideb i ddiwallu anghenion ein cymunedau.
 
I barhau â’r drafodaeth hon, rydyn ni'n lansio cyfres o arolygon barn cyflym a fydd yn adeiladu ar yr hyn rydych chi eisoes wedi’i ddweud wrthon ni ac yn caniatáu i ni gasglu ychydig yn rhagor o fanylion am rai o’r meysydd sy’n bwysig i chi.
 
Bydd yr arolwg cyntaf, ‘Arolwg Cyflym #1’, yn canolbwyntio ar wastraff ac ailgylchu.
 
Yn ystod y drafodaeth ‘Beth sy’n bwysig i chi’ yn ddiweddar, dywedodd 87% o’r holl ymatebwyr i’n harolwg ni fod casgliadau ailgylchu a gwastraff naill ai cyn bwysiced neu’n bwysicach i chi nag oedden nhw 12 mis yn ôl.
 
Gwnaeth hynny i ni feddwl….
 
Rydyn ni'n dymuno darganfod ychydig yn rhagor am yr holl bethau sy’n ymwneud â gwastraff ac ailgylchu, ac rydyn ni wedi llunio pôl piniwn byr a chyflym iawn.  Bydd eich adborth chi'n allweddol wrth ein helpu ni i lunio ein cynlluniau wrth symud ymlaen.
 
Arolwg Cyflym #1:
 
https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=vGg9Ws-tLkaRgSm0tCsxTegQsbuaDW5Jo3xJlpKY74ZUM0lZTEdMVEhZODlHNjNJMElaVE5PUDQ5Sy4u&lang=cy-GB
 
Er mai pôl piniwn ar-lein yw ‘Arolwg Cyflym #1’, bydd y tîm yn parhau i gynnal sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb rheolaidd fel bod trigolion sydd heb fynediad at gyfleusterau ar-lein yn cael dweud eu dweud ar bynciau fel hyn. Mae sesiynau pellach wedi'u cynllunio drwy gydol mis Ionawr a mis Chwefror. Cadwch lygad yn agored am fanylion!
 
Dyma’r cyntaf yn y gyfres o ‘Arolygon Cyflym’. Diolch ymlaen llaw am ein helpu ni i gael cipolwg ychwanegol ar hyn a meysydd pwnc pwysig eraill.  Cofiwch ddweud eich dweud erbyn dydd Llun 16 Ionawr.


Ymholiadau'r Cyfryngau