News Centre

Ymgyrch Siôn Corn 2022 wedi dod i ben!

Postiwyd ar : 17 Ion 2023

Ymgyrch Siôn Corn 2022 wedi dod i ben!
Mae Ymgyrch Siôn Corn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi derbyn ymateb anhygoel gan drigolion, ysgolion a busnesau unwaith eto.
 
Fel y llynedd, derbyniodd Ymgyrch Siôn Corn addewidion o arian neu dalebau rhodd er mwyn sicrhau bod y teuluoedd sydd â’r angen mwyaf yn gallu buddio o’r apêl flynyddol boblogaidd.
 
O ganlyniad i’r rhoddion hael hyn, roedd dros fil o blant a phobl ifanc ledled y fwrdeisref sirol wedi derbyn rhodd annisgwyl ar ddiwrnod Nadolig.
 
Mae’r Cyngor hefyd wedi derbyn rhoddion hael gan nifer o fusnesau, a gafodd eu rhoi i bum elusen leol - Platfform, HomeStart, Llamau, Action for Children, a'r ganolfan i bobl ddigartref – Tŷ'r Fesen.
 
Roedd nifer o fusnesau wedi cofrestru ar gyfer yr apêl yn barod pan agorodd i’r cyhoedd ym mis Tachwedd; gan gynnwys Creditsafe, Link Financial, Kearns Solicitors a llawer mwy.
 
Daeth cyfraniad mawr hefyd gan Aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a roddodd gyfanswm o £600.
 
Gweithiodd staff y Tîm Cyfathrebu yn galed i drefnu’r talebau rhodd a’r anrhegion ar ddydd Iau 8 Rhagfyr, gan drefnu’r anrhegion yn gategorïau yn ôl oedran yn barod i’w dosbarthu i’r plant mewn pryd ar gyfer y Nadolig.
 
Meddai’r Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol “Ni fyddai Ymgyrch Siôn Corn yn llwyddiannus, neu hyd yn oed yn bosibl, heb garedigrwydd a haelioni ein trigolion, ysgolion a busnesau lleol.

Gyda nifer o bobl yn parhau i deimlo effeithiau’r pandemig a gyda’r argyfwng costau byw, mae 2022 wedi bod yn anodd i bawb, ac oherwydd hyn roedd yn bwysicach fyth i sicrhau bod plant yn derbyn anrheg ar fore Nadolig; diolch o galon i bawb a wnaeth gefnogi’r achos teilwng hwn.”
 
Diolch yn arbennig i: Gwasanaethau Eiddo, Eglwys y Methodistaidd - Coed Duon, Ceris Rees, Victoria Gauden, Boys from the Brad, Ysgol Gyfun Coed Duon, Ysgol Gynradd Plasyfelin a llawer mwy.  


Ymholiadau'r Cyfryngau