News Centre

Llwyddiant i Hyrwyddwyr Coginio Cymunedol Cyntaf Caerffili

Postiwyd ar : 19 Ion 2023

Llwyddiant i Hyrwyddwyr Coginio Cymunedol Cyntaf Caerffili
Mae cwrs Hyrwyddwyr Coginio Cymunedol cyntaf Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dod i ben ar ôl wyth wythnos o ddosbarthiadau.

Cafodd cwrs Hyrwyddwyr Coginio Cymunedol ei lansio ym mis Medi 2022, fel rhan o'r ymgyrch Gofalu am Gaerffili er mwyn helpu mynd i’r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd.

Roedd y cwrs yn cynnwys wyth wythnos o ddosbarthiadau coginio wedi’u paratoi a’u cyflwyno gan wirfoddolwyr o staff arlwyo'r Cyngor fel rhan o’u cynllun gwirfoddoli corfforaethol. Nod y cwrs oedd dysgu trigolion sut i goginio prydau iachus o'r dechrau, heb wario gormod o arian. Cafodd y cyfranogwr hefyd gardiau ryseitiau a phopty araf i'w hannog nhw i barhau i goginio ar ôl i'r cwrs wedi'i gwblhau.

Cafodd y fenter ei chefnogi gan Hyrwyddwyr Cymunedol Morrisons o siopau Tŷ-du, Bargod a Chaerffili, trwy gyflenwi'r cynhwysion a'r offer angenrheidiol ar gyfer y cwrs. Roedd cyllid ychwanegol hefyd gan y prosiect Food4Growth, wedi'i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Gymunedau, “Mae meddu ar y wybodaeth a’r gallu i goginio yn sgìl pwysig ac, yn anffodus, nid oes gan bawb fynediad at reini.

“Ein gobaith yw bod y sesiynau hyn wedi rhoi’r cyfle, y gallu a’r hyder i gyfranogwyr gael mynediad at ddiet iach a’i baratoi ar gyfer eu hunain a’u teuluoedd, a bydd y sgiliau wedi'u dysgu yn y sesiynau hyn yn cael eu rhannu a’u trosglwyddo i eraill yn eu cymunedau.”

Ychwanegodd Kate Davies, Hyfforddwr Bwyd Iach ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a gwirfoddolwr y cwrs, “Cafodd y ryseitiau eu creu gyda bwyta’n iach heb wario gormod o arian mewn golwg. Dechreuon nhw'n syml ond aeth yn fwy anodd wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen. Mae hi wedi bod yn anhygoel i weld y gwahaniaeth mae’r cwrs hwn wedi’i gael ar y cyfranogwyr, gyda’u hyder yn y gegin yn tyfu bob wythnos.”

Dywedodd Cheryl Smith, cyfranogwr y cwrs, “Mae'r cwrs wedi bod yn wych. Bob wythnos, rydyn ni'n dod i ddysgu sut i wneud pryd newydd o'r dechrau, ac mae pob rysáit yn addas i'w choginio yn y popty, popty araf a ffrïwr aer, sy'n opsiwn gwych ar gyfer arbed amser ac arian. Mae’r grŵp yma wedi bod yn wych, rydyn ni i gyd wedi dod yn ffrindiau mor dda a byddwn ni'n cadw mewn cysylltiad nawr bod y cwrs wedi dod i ben.”

I ymuno â'r rhestr aros ar gyfer y rhaglen Hyrwyddwyr Coginio Cymunedol yn eich ardal chi, e-bostiwch GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 811490


Ymholiadau'r Cyfryngau