Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Canolfannau Hamdden
Casgliad bin wedi'i golli
Cymorth i Wcráin
Swyddi a hyfforddiant
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd
Cefnogaeth a chyngor am Gostau Byw
Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ionawr 2023
Cafodd Ysgol Gymunedol Sant Cenydd ymweliad arbennig gan Andrew Bailey, Llywodraethwr Banc Lloegr
News Centre
Cafodd Ysgol Gymunedol Sant Cenydd ymweliad arbennig gan Andrew Bailey, Llywodraethwr Banc Lloegr
Postiwyd ar : 24 Ion 2023
Ymwelodd Andrew Bailey, Llywodraethwr Banc Lloegr, â disgyblion Ysgol Gymunedol Sant Cenydd yn ddiweddar. Roedd yr ymweliad yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddysgu am waith Banc Lloegr ac economi'r Deyrnas Unedig.
Ar ôl cyrraedd am 10.00am, cafodd Mr Bailey ei groesawu i’r ysgol gan y Pennaeth, Miss Rebecca Collins; y Dirprwy, Mr Ceri Bown; yn ogystal â’r Prif Ferch, Katie Nash a’r Prif Fachgen, Kyle Parson.
Hefyd, roedd y Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gyllid a Pherfformiad, yn bresennol, yn ogystal ag Ian Derrick a Steve Hicks sy'n cynrychioli Asiantaeth Cymru Banc Lloegr.
Yn ystod yr ymweliad, roedd araith fer gan Mr Bailey i 100 o ddisgyblion a gymerodd ran wedyn mewn sesiwn ryngweithiol gyda’r Llywodraethwr. Cafodd Mr Bailey ei holi gan y myfyrwyr o ran nifer o bynciau yn amrywio o sut datblygodd ei yrfa mewn cyllid, sut gallai cryptoarian gael effaith ar economi’r Deyrnas Unedig i benderfyniadau parhaus Banc Lloegr i fynd i’r afael â chwyddiant drwy’r cynnydd mewn cyfraddau llog.
Yn dilyn hyn, gweithiodd y Llywodraethwr â grŵp llai o fyfyrwyr sy’n rhan o Glwb Menter yr ysgol; roedd disgyblion yn eiddgar i drafod eu cynnig busnes ar gyfer menter technoleg symudol gynaliadwy.
Dywedodd Andrew Bailey, Llywodraethwr Banc Lloegr, “Roeddwn i'n falch iawn o gwrdd â disgyblion Ysgol Gymunedol Sant Cenydd yn ystod fy ymweliad diweddar â Chymru ac mae eu cwestiynau craff iawn ar yr economi wedi gwneud argraff arnaf i. Roedd hi'n ysbrydoledig cwrdd â phobl ifanc mor ymroddedig a chlywed eu dyheadau ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Rebecca Collins, Pennaeth Ysgol Gymunedol Sant Cenydd, “Roedd yn anrhydedd croesawu Llywodraethwr Banc Lloegr i Ysgol Gymunedol Sant Cenydd. Mwynheuodd ein myfyrwyr yn fawr iawn y cyfle i drafod a deall ymhellach faterion economaidd pwysig sy'n effeithio ar eu bywydau nawr ac yn y dyfodol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Gyllid a Pherfformiad, “Roedd hi'n wych bod yn bresennol ar gyfer ymweliad y Llywodraethwr ag Ysgol Gymunedol Sant Cenydd. Yn y cyfnod heriol hwn, roedd hi'n wych gweld y myfyrwyr yn cymryd cymaint o ran yn eu sesiwn holi ac ateb a chael y cyfle i glywed yn uniongyrchol gan Mr Bailey ar faterion sy’n effeithio ar yr economi.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Mae'r Swyddfa Dywydd – rhybudd tywydd Melyn ar gyfer gwyntoedd cryfion
Cyngor Caerffili yn gofyn i denantiaid roi barn ar eu rhent
Anrhydeddu sêr-wirfoddolwyr mewn seremoni wobrwyo fawreddog
Erlyn perchennog tafarn o Goed Duon am fethu â darparu gwybodaeth am alergenau
Partneriaid yn arwain y ffordd i annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y