News Centre

Gwaith ffordd – Commercial Street, Pontllan-fraith

Postiwyd ar : 17 Ion 2023

Gwaith ffordd – Commercial Street, Pontllan-fraith
Commercial Street, Pontllan-fraith

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwneud gwaith amnewid hanfodol i gwlfert dŵr wyneb presennol o dan y ffordd yn Commercial Street, Pontllan-fraith, gyferbyn â Bridge Vets, gan ddechrau ar 23 Ionawr 2023 ac yn para am bythefnos.

Mae'r cwlfert mewn cyflwr gwael a bydd angen gwaith cloddio agored hyd at 3m mewn dyfnder ar y ffordd er mwyn caniatáu i'r gwaith amnewid gael ei wneud. Oherwydd natur y gwaith a'r diffyg lle i wneud y gwaith hwn fesul cam, hynny yw gwneud y gwaith fesul hanner gan ddefnyddio goleuadau traffig, bydd angen cau'r ffordd a gosod llwybr gwyro.

Cynllun Rheoli Traffig (PDF)

Bydd gan gerbydau nwyddau trwm a cherbydau nwyddau mawr fynediad llawn i Tram Road o'r dwyrain (goleuadau traffig dwyffordd) i bob busnes.

Bydd mynediad i faes parcio Bridge Vets a a'r orsaf danwydd ar gael o'r gorllewin, a bydd mynediad i'r unedau masnachol y tu ôl i'r filfeddygfa yn parhau i fod ar gael o'r dwyrain.

Bydd y systemau rheoli traffig ar waith ddydd a nos am gyfnod llawn y gwaith.

Ymddiheurwn am yr anghyfleustra.
 



Ymholiadau'r Cyfryngau