News Centre

Paratoadau'n dechrau ar gyfer cynllun byw bywyd hŷn yn Rhisga

Postiwyd ar : 12 Ion 2023

Paratoadau'n dechrau ar gyfer cynllun byw bywyd hŷn yn Rhisga
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dechrau ar y paratoadau i ddatblygu cynllun byw bywyd hŷn newydd ar safle hen gartref gofal Tŷ Darran yn Rhisga.
 
Mae'r gwaith bellach wedi dechrau i baratoi'r safle, gan gynnwys mesurau i warchod coed a chlirio llystyfiant. Yna, mae bwriad i gynnal ymchwiliadau o'r safle, cyn y bydd yr adeilad presennol yn cael ei ddymchwel ddiwedd mis Ionawr.
 
Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd y cynllun newydd yn cael ei ddefnyddio i adleoli deiliaid contract presennol y Cyngor o gynlluniau tai lloches yn yr ardal a fydd yn cau.
 
Bydd yr adeilad yn cael ei ddylunio gyda lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni i leihau biliau preswylwyr, a hefyd i leihau allyriadau carbon. Bydd hefyd yn cynnwys fflatiau eang a lifft i bob llawr. Bydd y fflatiau hefyd yn cynnwys mannau awyr agored personol, fel balconïau, ynghyd â gerddi cymunedol hygyrch.
 
Ar hyn o bryd, mae ymgynghori'n digwydd gyda deiliaid contract ynghylch dyluniadau arfaethedig ar gyfer y cynllun, gan gynnwys holi eu barn ar yr ystod o fannau cymunedol a allai gael eu hymgorffori yn y cyfleuster a'u defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau trefnedig.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae'r cynlluniau ar gyfer y datblygiad hwn yn gyffrous iawn ac yn wahanol i unrhyw un o'n cynlluniau tai lloches presennol; bydd lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni, a mannau cymunedol ac awyr agored hyblyg a fydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i wella iechyd a lles preswylwyr.
 
“Mae anghenion a blaenoriaethau preswylwyr yn hanfodol wrth ddylunio'r cyfleuster newydd, ac mae proses ymgynghori helaeth ar y gweill gyda nhw ar hyn o bryd. Bydd rhagor o ddigwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal gyda'r gymuned leol.”
 


Ymholiadau'r Cyfryngau