News Centre

Nodyn atgoffa terfynol i ddeiliaid contract (tenantiaid) Cyngor Caerffili i ddiweddaru manylion cyswllt

Postiwyd ar : 17 Ion 2023

Nodyn atgoffa terfynol i ddeiliaid contract (tenantiaid) Cyngor Caerffili i ddiweddaru manylion cyswllt
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn anfon nodyn atgoffa terfynol i’w ddeiliaid contract (tenantiaid) er mwyn sicrhau bod eu manylion cyswllt yn gyfredol.
 
Mae adran tai y Cyngor, Cartrefi Caerffili, yn gofyn am yr wybodaeth, yn dilyn gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ar 1 Rhagfyr 2022.  Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn golygu bod pob tenantiaeth wedi’i throsi'n ‘gontract meddiannaeth’.
 
Nid oes angen i ddeiliaid contract y Cyngor wneud dim gan fod eu cytundeb tenantiaeth wedi’i drosi'n awtomatig i'r contract newydd.   Fodd bynnag, mae angen i ddeiliaid contract sicrhau bod eu manylion cyswllt yn gyfredol er mwyn i'r Cyngor anfon copïau o'u contract newydd atyn nhw.  Disgwylir i gontractau gael eu hanfon yn gynnar yn 2023.
 
Mae llythyrau wedi cael eu hanfon at holl ddeiliaid contract y Cyngor, ynghyd â ffurflen iddyn nhw ei llenwi a'i dychwelyd.  Fel arall, gall deiliaid contract lenwi ffurflen gryno ar wefan y Cyngor.
 
Gall deiliaid contract sydd â chwestiynau, neu sydd angen cymorth, ffonio 01443 811434 / 33 / 32 neu e-bostio RhentuCartrefi@caerffili.gov.uk
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau