News Centre

Diwrnod Cofio'r Holocost 2023

Postiwyd ar : 27 Ion 2023

Diwrnod Cofio'r Holocost 2023
Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn cael ei gynnal ar 27 Ionawr a thema 2023 yw ‘Pobl Gyffredin’.

Roedd pobl gyffredin wedi cymryd rhan ym mhob agwedd ar yr Holocost, yn yr erledigaeth o grwpiau eraill gan y Natsïaid, ac yn yr hil-laddiadau yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Roedd pobl gyffredin yn gyflawnwyr, yn wylwyr, yn achubwyr, yn dystion – ac roedd pobl gyffredin yn ddioddefwyr.

Mae'r thema eleni yn canolbwyntio ar y bobl gyffredin a oedd yn gadael i hil-laddiad ddigwydd, y bobl gyffredin a oedd yn mynd ati i gyflawni hil-laddiad, a'r bobl gyffredin a gafodd eu herlid.

Dyma ychydig o sylwadau gan y bobl gyffredin a brofodd yr Holocost a hil-laddiad yn uniongyrchol:

Kemal Pervanić, goroeswr, Bosnia
“Efallai bydd pobl yn meddwl nad oes ganddyn nhw unrhyw gysylltiad â'm hanes. Ond gallai beth ddigwyddodd i mi, ddigwydd iddyn nhw – ac i bobl fel chi. Efallai ei bod yn rhy anodd ei gredu, ond dyw hyn ddim yn digwydd i ddieithriaid sy'n byw yn bell i ffwrdd. Dim ond person cyffredin ydw i. Gall y pethau ofnadwy hyn ddigwydd i bobl fel ni.

Darllenwch hanes bywyd Kemal Pervanić yma: www.hmd.org.uk/resource/kemal-pervanic-hidden-histories

Fe wnaeth Syr Nicholas Winton, brocer stoc ifanc, achub 669 o blant o Tsiecoslofacia, gan ddod â nhw i'r DU a'u hachub rhag erchyllterau'r Holocost.

Meddai, “Pam ydych chi'n gwneud môr a mynydd o hyn? Y cwbl wnes i oedd helpu ychydig; roeddwn i yn y lle iawn ar yr adeg iawn.”

Darllenwch hanes bywyd Syr Nicholas Winston yma: www.hmd.org.uk/resource/sir-nicholas-winton

I ddangos ymrwymiad y Cyngor i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost, bydd Tŷ Penallta a Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn cael eu goleuo heno i ddangos gweithred o undod.

Meddai'r Cynghorydd Philippa Leonard, Hyrwyddwr Cydraddoldeb y Cyngor, “Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost, gan na ddylen ni byth anghofio erchyllterau'r Holocost a hil-laddiadau eraill ledled y byd.

“Mae thema eleni, ‘Pobl Gyffredin’, yn ein hysgogi i ystyried sut mae pobl gyffredin, fel ni ein hunain, yn gallu gwneud mwy nag y byddem yn ei feddwl i herio rhagfarn heddiw.

“Rydyn ni'n annog plant ac aelodau'r teulu i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a difyr sy'n codi ymwybyddiaeth am yr Holocost a hil-laddiad, a'r bobl a'r gwledydd sydd wedi dioddef.”

Mae gwefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn adnodd gwych i athrawon a rhieni sydd am i'w disgyblion/plant ddysgu gwersi o'r gorffennol mewn ffyrdd creadigol, myfyriol ac ysbrydoledig.

I gymryd rhan, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost: www.hmd.org.uk/take-part-in-holocaust-memorial-day/schools

Heyfd, mae cannoedd o ffilmiau, podlediadau a rhaglenni dogfen sy'n canolbwyntio nid yn unig ar yr erchyllterau a gafodd eu cyflawni yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond hefyd ôl-effeithiau'r troseddau yn ystod y degawdau a dilynodd. Dyma rai ffilmiau/rhaglenni dogfen nodedig sydd wedi ennill nifer o wobrau:

Schindler’s List (1993)
Un o'r ffilmiau Holocost mwyaf erioed ac sydd wedi derbyn saith Gwobr yr Academi, mae'r ffilm arbennig o dda gan Steven Spielberg yn dilyn stori bywyd go iawn Oskar Schindler (Liam Neeson), dyn busnes o'r Almaen. Achubodd e fywydau mwy na 1,000 o Iddewon, y rhan fwyaf ohonyn nhw'n Bwyliaid wrth eu cyflogi nhw yn ei ffatrïoedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r cast serol yn cynnwys Ralph Fiennes yn chwarae rôl swyddog SS sadistaidd o'r enw Amon Goeth, a Ben Kingsley yn chwarae rôl cyfrifydd Iddewig Schindler o'r enw Itzhak Stern.

The Pianist (2002)
Mae'r ddrama fywgraffyddol bwerus hon a gafodd ei chyfarwyddo gan Roman Polanski yn seiliedig ar gofiant Holocost y pianydd a'r cyfansoddwr Pwylaidd-Iddewig o'r enw Władysław Szpilman (wedi'i chwarae gan Adrien Brody). Wedi'i enwebu am saith Oscar, enillodd The Pianist dair gwobr am y cyfarwyddwr gorau, y sgript ffilm wedi'i haddasu orau (Ronald Harwood) a'r actor gorau, yn ogystal â'r Palme d'Or yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2002.

Auschwitz: The Nazis and the Final Solution (2005)
Cyfres ddogfen rymus mewn chwe rhan gan y BBC, sy'n cyflwyno golwg fanwl ar stori Auschwitz ac yn cynnwys cyfweliadau â chyn-garcharorion, gwarchodwyr ac ail-greu digwyddiadau hanesyddol. O syniad i realiti, llofruddiaeth dorfol, arbrofi ac yn y pen draw rhyddhad a dial, mae'r gyfres yn ymdrin â phob agwedd ar y gwersyll Natsïaidd drwg-enwog hwn, lle cafodd mwy na miliwn o Iddewon eu hanfon i farw.
Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn rhoi cyfle i ni gofio – i bwrpas. Mae'n rhoi cyfrifoldeb arnom ni i sicrhau dyfodol mwy diogel, gwell i bawb. Gall pawb gymryd cyfrifoldeb a defnyddio eu cryfderau nhw i fynd i'r afael â rhagfarn, gwahaniaethu ac anoddefgarwch lle bynnag y byddwn ni'n dod ar eu traws.


Ymholiadau'r Cyfryngau