News Centre

Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhoi blaenoriaeth i farn pobl ifanc o ran datblygu Canolfan Ieuenctid newydd

Postiwyd ar : 19 Ion 2023

Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhoi blaenoriaeth i farn pobl ifanc o ran datblygu Canolfan Ieuenctid newydd
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cwblhau arolwg yn ceisio barn pobl ifanc o fewn y Fwrdeistref Sirol i baratoi ar gyfer agor Canolfan Ieuenctid newydd.

Mae disgwyl i Ganolfan Ieuenctid Parc Virginia agor yn ddiweddarach eleni, ym Mharc Virginia, Caerffili. Bydd y ganolfan ar agor i bob person ifanc 11-25 oed, gan gynnig gweithgareddau clwb ieuenctid a sesiynau yn ystod gwyliau'r ysgol.

Bydd cymorth a grwpiau arbenigol fel LHDTC+, cymorth i bobl ifanc i fynd i mewn i'r gwaith a'r coleg, gwybodaeth, cymorth a gweithdai pynciau llosg. Hefyd, bydd cymorth o ran digartrefedd ar gael, yn ogystal â mynediad at gynnyrch urddas mislif ac adnoddau Cerdyn C.

Cyn agor y Ganolfan Ieuenctid, ymatebodd 206 o bobl ifanc i arolwg a oedd yn ceisio cael barn agored a gonest am sut dylai'r ganolfan newydd gael ei rhedeg a'r mathau o weithgareddau a ddylai fod ar gael. Mae hyn yn sicrhau bod barn pobl ifanc yn cyfrannu at benderfyniadau allweddol am ddarpariaeth y Gwasanaeth Ieuenctid.

Yn sgil yr arolwg, daeth i'r amlwg hefyd bod diddordeb gan bobl ifanc mewn cymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith o lunio’r ganolfan a chyflwyno gwaith ieuenctid yn yr ardal – mae holl ymatebwyr yr arolwg i’w gwahodd i gymryd rhan uniongyrchol yn rheolaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “Hoffwn i ddiolch i bawb yng Ngwasanaeth Ieuenctid Caerffili am gychwyn yr arolwg hwn ac i'r holl bobl ifanc am gymryd rhan. Bydd y cyfleuster newydd yn cynnig cyfleoedd newydd ar gyfer darpariaeth ieuenctid yng Nghaerffili. Mae’n ddatblygiad cyffrous.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Nikki Taylor, Gweithiwr Ardal Clwstwr y De drwy anfon e-bost i taylon@caerffili.gov.uk
 


Ymholiadau'r Cyfryngau