News Centre

Cyngor Caerffili yn cymeradwyo adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol

Postiwyd ar : 18 Ion 2023

Cyngor Caerffili yn cymeradwyo adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn ddiweddar, cymeradwyodd Cyngor Fwrdeistref Sirol Caerffili adroddiad yn amlinellu'r llwyddiannau a’r heriau wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Mae Adroddiad Blynyddol y Gyfadran Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, a gafodd ei gymeradwyo mewn cyfarfod y Cyngor llawn ar ddydd Mawrth 17 Ionawr, yn ystyried perfformiad yn ystod 2021/22 yn ogystal ag amlinellu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

Dyma rhai o'r cyflawniadau allweddol sydd wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad ar gyfer 2021/22:
  • Sefydlu grŵp o rieni pobl ag awtistiaeth i helpu llywio’r gwasanaeth.
  • Helpu staff i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach gan ymgymryd â Gradd Gwaith Cymdeithasol.
  • Cymorth i ofalwr di-dâl, gan ddefnyddio'r cynllun grantiau bach, ynghyd â rhoi 194 aelodaeth hamdden i ofalwyr di-dâl, gan gynnwys 28 o ofalwyr ifanc.
  • Cynnydd yn niferoedd o ofalwyr di-ddâl sydd ar restr bostio'r Cyngor o 1303 i 1727 i roi gwybodaeth, cefnogaeth a chymorth iddyn nhw. Fe wnaeth y tîm hefyd drefnu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ofalwyr di-ddâl, gyda chyfanswm o 1388 o bobl yn cymryd rhan.
  • Cafodd siop goffi ei agor ym Mhontllan-fraith, wedi'i staffio gan unigolion sydd wedi mynychu'r gwasanaethau dydd yn y gorffennol, i roi cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anableddau dysgu. 

Mae'r adroddiad yn cydnabod yr heriau mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn eu hwynebu, gan gynnwys anawsterau recriwtio a chadw staff gofal.  Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed yn lleol, gydag awdurdodau lleol eraill a gyda Llywodraeth Cymru, i geisio datrys y broblem yma sy’n cael effaith ledled y Deyrnas Unedig.

Mae blaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn gyfredol hefyd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad ac yn cynnwys:
  • Datblygu fframwaith trwy waith partneriaeth rhanbarthol i gynorthwyo gofalwyr di-ddal.
  • Symud ymlaen â datblygu tai gofal seibiant i oedolion a phlant.
  • Ehangu gofal preswylwyr a llety a gynorthwyir ar gyfer pobl ifanc ledled y Fwrdeistref Sirol.
  • Ehangu Cynllun Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru ymhellach i ddarparu gwasanaethau ar gyfer oedolion hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl.
  • Rhoi rhagor o gyfleoedd i gyflogi pobl ag anableddau dysgu yn dilyn telerau ac amodau'r Cyngor. 

Meddai'r Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, "Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi wynebu nifer o heriau dros y blynyddoedd diwethaf ond, er hyn, mae Caerffili yn parhau i berfformio'n dda a darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu ar y llwyddiannau hyn a gwrando ar yr adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau i wella gofal cymdeithasol yn barhaus yn y Fwrdeistref Sirol."


Ymholiadau'r Cyfryngau