News Centre

Cadarnhau ffliw adar ar safle'r castell

Postiwyd ar : 20 Ion 2023

Cadarnhau ffliw adar ar safle'r castell
Mae pawb sy'n ymweld â Chastell Caerffili a'r cyffiniau yn cael eu hatgoffa i gymryd gofal yn dilyn cadarnhau achosion o ffliw adar ymhlith adar marw sydd wedi cael eu darganfod ar y safle.
 
Cafodd nifer o elyrch a gwyddau marw eu darganfod ar y tir o amgylch Castell Caerffili cyn y Nadolig.
 
Cynhaliodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), sy'n rhan o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), brofion fel rhan o'i rhaglen Cadw Golwg am Ffliw Adar mewn Adar Gwyllt ac wedi cadarnhau presenoldeb ffliw adar.
 
Mae APHA yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro'r peryglon i iechyd y cyhoedd oherwydd ffliw adar, a'r cyngor o hyd yw bod y perygl i'r cyhoedd yn isel iawn. Y prif gyngor yw peidio â chyffwrdd ag adar sâl neu farw. I roi gwybod am adar marw, ffoniwch linell gymorth DEFRA (03459 33 55 77).
 
Mae arwyddion ychwanegol yn cael eu gosod ar y tir o amgylch y castell gan roi'r cyngor canlynol:
 
  • Cadwch at y llwybr troed
  • Cadwch gŵn ar dennyn
  • Peidiwch â bwydo adar dŵr gwyllt
  • Peidiwch â chodi na chyffwrdd ag adar gwyllt marw neu sâl
  • Peidiwch â chyffwrdd â phlu adar gwyllt neu arwynebau sydd wedi'u halogi â baw adar gwyllt
  • Os ydych chi'n cadw dofednod neu adar eraill, golchwch eich dwylo, a glanhau a diheintio'ch esgidiau, cyn gofalu am eich adar 

Llinell gymorth DEFRA – 03459 33 55 77


Ymholiadau'r Cyfryngau