News Centre

​Rydyn ni wedi symleiddio'r dulliau y gallwch chi dalu eich bil Treth y Cyngor

Postiwyd ar : 29 Chw 2024

​Rydyn ni wedi symleiddio'r dulliau y gallwch chi dalu eich bil Treth y Cyngor
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwella llwyfan Treth y Cyngor ar-lein sydd ar gael i drigolion ei ddefnyddio i dalu eu bil Treth y Cyngor.  

Mae 70% o'n trigolion yn talu eu bil Treth y Cyngor trwy ddebyd uniongyrchol, ac rydyn ni wedi gwneud y broses hon yn symlach nag erioed o'r blaen. 

Gallwch chi nawr:  
  • Sefydlu debyd uniongyrchol ar-lein, heb drafferth. 
  • Cofrestru ar gyfer biliau di-bapur yn y dyfodol. 

Debyd uniongyrchol yw'r ffordd hawsaf a chyflymaf o dalu eich bil Treth y Cyngor. Ar ôl sefydlu'r taliad, gallwch chi ymlacio – fydd dim angen i chi wneud dim byd arall. 

Gallwch chi ddewis sefydlu taliadau debyd uniongyrchol sy'n addas i chi, drwy dalu naill ai ar 5ed, 15fed neu 25ain bob mis, neu drwy gynllun talu dros gyfnod o 10 mis neu 12 mis er mwyn helpu lledaenu'r gost. Gallwch chi hefyd dalu ar-lein o hyd, dros y ffôn ac yn eich swyddfa bost leol. 

Pam dylech chi ystyried newid i daliadau debyd uniongyrchol? Mae tri rheswm: 

Ymunwch â'r mwyafrif – Mae 70% o drigolion eisoes wedi dechrau manteisio ar daliadau debyd uniongyrchol.  
Mae'n haws nag erioed o'r blaen – Am y tro cyntaf erioed, gallwch chi nawr sefydlu taliadau debyd uniongyrchol ar-lein. Dim galwadau ffôn, dim aros – y cyfan sydd ei angen yw eich gwybodaeth allweddol a'ch rhif Treth y Cyngor.  
Cyfleustra – Gallwch chi ffarwelio â'r straen o gadw golwg ar bethau, a defnyddio'ch amser gwerthfawr yn well.  

Sefydlwch eich Debyd Uniongyrchol nawr 

Dilynwch y cyfarwyddiadau gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein. Cyn i chi ddechrau, bydd angen y canlynol wrth law: 
  • Eich rhif Treth y Cyngor. 
  • Eich cyfeiriad cartref. 
  • Eich manylion banc. 
Gallwch ddod o hyd i'ch rhif Treth y Cyngor ar eich bil Treth y Cyngor. Os ydych chi wedi colli eich bil Treth y Cyngor neu os oes angen cymorth arnoch chi, ffoniwch ni ar 01443 863002. Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer debyd uniongyrchol o’r blaen, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.  

Rhag-gofrestru ar gyfer bilio di-bapur 

Rydyn ni hefyd yn eich annog chi i rag-gofrestru i fynd yn ddi-bapur ar gyfer bilio Treth y Cyngor yn y dyfodol.  

Bydd eich bil blynyddol yn dal i gyrraedd ar bapur ym mis Mawrth eleni – ond wrth symud ymlaen, gan ddewis bilio di-bapur, byddwch chi nid yn unig yn lleihau eich effaith amgylcheddol, ond byddwch chi hefyd yn cael mynediad at eich bilio ar-lein.  


Ymholiadau'r Cyfryngau