News Centre

Cynorthwyo cymunedau Caerffili drwy'r argyfwng costau byw

Postiwyd ar : 06 Chw 2024

Cynorthwyo cymunedau Caerffili drwy'r argyfwng costau byw
Mae trigolion ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn cael eu cynorthwyo drwy'r argyfwng costau byw diolch i fenter sydd wedi'i darparu gan yr awdurdod lleol.

Dechreuodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y gwasanaeth mewn ymateb i'r pandemig Covid-19.  Ers hynny, mae gwasanaeth ‘Gofalu am Gaerffili’ wedi parhau i esblygu a datblygu, gan ddarparu cymorth i’r rhai sydd ei angen.

Yn y cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Awst 2023, cafodd tîm Gofalu am Gaerffili 6,973 o alwadau a 2,128 o e-byst yn gofyn am gymorth.  Mae’r materion mwyaf cyffredin y mae’r tîm yn delio â nhw yn cynnwys ansicrwydd ariannol, dyled, iechyd meddwl, profedigaeth, problemau symud corfforol, dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol, brwydrau iechyd parhaus, allgáu digidol, costau byw, ynysigrwydd a cham-drin domestig.

Mae enghreifftiau o gymorth sydd wedi'i ddarparu gan y tîm yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys cael 744 o geisiadau llwyddiannus am daliadau tanwydd gaeaf, rhoi 797 o dalebau tanwydd, rhoi 1,648 o dalebau ar gyfer banciau bwyd a gwneud 257 o atgyfeiriadau at y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.

Mae tîm Gofalu am Gaerffili hefyd yn gyfrifol am gydlynu cynllun gwirfoddoli i weithwyr y Cyngor.  Mae'r cynllun yn galluogi staff Cyngor Caerffili i gael eu rhyddhau o'u rôl nhw i roi o'u hamser i gynorthwyo cymunedau lleol.  Trwy'r cynllun, mae gwirfoddolwyr wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys cynorthwyo darparu prydau ysgol am ddim, plannu coed, paentio a chynorthwyo'r gwaith o adleoli grŵp cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau, “Mae Gofalu am Gaerffili yn gweithredu fel un pwynt cyswllt ar gyfer y rhai sy’n profi anawsterau, gyda phecyn cymorth cyfannol, sydd wedi’i deilwra i anghenion unigol, yn cael ei ddarparu gan y Cyngor a’i bartneriaid.

“Mae’r fenter yn parhau i esblygu i ddiwallu anghenion newidiol ein cymunedau ni, ac mae’r ffigurau hyn yn dangos pwysigrwydd ac effaith y gwasanaeth hwn.”

I gael rhagor o wybodaeth am Gofalu am Gaerffili a'r cymorth maen nhw'n ei gynnig, ewch i www.caerffili.gov.uk,  ffonio 01443 811490 neu e-bostio GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk

 


Ymholiadau'r Cyfryngau