News Centre

Llyfrgell Rhymni i elwa ar welliannau gwerth mwy na £400k

Postiwyd ar : 10 Chw 2023

Llyfrgell Rhymni i elwa ar welliannau gwerth mwy na £400k
Yn sgil cyllid gwerth £134,000 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a £269,902 gan Gronfa Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru, bydd gwaith adnewyddu cyffrous yn cael ei wneud yn Llyfrgell Rhymni.
 
Bydd y gwelliannau'n cynnwys adnewyddu a moderneiddio dau lawr y llyfrgell; gan greu hwb addysg, darllen a chymorth arloesol i drigolion, staff y Cyngor a sefydliadau partner.
 
Cafodd nifer o nodweddion y dyluniad newydd eu penderfynu yn sgil cynnal arolwg Llais y Gymuned yn y gymuned leol.
 
Bydd llawr gwaelod y llyfrgell yn gweithredu fel y brif fan benthyca llyfrau i blant, pobl ifanc ac oedolion. Bydd e hefyd yn cynnwys man eistedd newydd er mwyn defnyddio gliniaduron a man lluniaeth bach.
 
Bydd llawr cyntaf y cyfleuster yn cael ei ddatblygu yn ‘Hwb Dysgu Cymunedol Idris Davies’. Bydd y man addysgu a dysgu bywiog hwn yn cynnwys dodrefn o'r radd flaenaf, gliniaduron, bwrdd gwyn digidol rhyngweithiol a bydd yn dod yn ganolbwynt i barhau i gynnal y Gymraeg a diwylliant Cymru.
 
Bydd tair swyddfa fodern hefyd gan gynnig man cyfarfod preifat neu fan gweithio ystwyth ar gyfer y gymuned leol. Gall cwsmeriaid hefyd fanteisio ar fand eang wedi'i uwchraddio a hygyrchedd gwell drwy lifft y llyfrgell a dau fan gwefru cerbydau trydan a fydd yn cael eu gosod yn y maes parcio at ddefnydd y cyhoedd.
 
Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Chymunedau, “Mae Llyfrgell Rhymni eisoes yn hwb i'r gymuned leol, gan gynnwys canolfan glyd, groesawgar i bawb. Bydd y gwelliannau wedi'u cynllunio yn ei thrawsnewid yn gyfleuster blaenllaw a fydd yn cynnwys mannau dysgu hyblyg, aroesol gan gynnig digonedd o gyfleoedd i drigolion.
 
“Diolch i'r trigolion am eu cydweithrediad a'u hamynedd wrth i'r gwelliannau gael eu gwneud.”
 
Mae'r gwaith ar lawr cyntaf yr adeilad eisoes wedi dechrau, ond mae dal gan gwsmeriaid fynediad at wasanaeth llyfrgell llawn ar y llawr gwaelod. Bydd yr adeilad llawn yn cau i'r cyhoedd ym mis Mawrth, er mwyn i'r gwelliannu sy'n weddill gael eu gwneud yn ddiogel. Mae disgwyl i'r adeilad ailagor yn gynnar yn yr haf.
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau