News Centre

Cymeradwyo trefn torri gwair Caerffili i hyrwyddo bioamrywiaeth

Postiwyd ar : 08 Chw 2023

Cymeradwyo trefn torri gwair Caerffili i hyrwyddo bioamrywiaeth
Mae Pwyllgor Craffu’r Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynigion ar gyfer trefn torri gwair sy’n anelu at hyrwyddo bioamrywiaeth.

Cymeradwyodd aelodau’r Pwyllgor Craffu fabwysiadu’r dull a gafodd ei ddefnyddio yn ystod 2021/22 fel safon y dyfodol ar gyfer torri gwair yn y Fwrdeistref Sirol.  Roedd hyn yn golygu bod torri gwair ar ymylon priffyrdd a ffyrdd osgoi yn cael ei gadw i’r lleiaf posibl, yn unol â chanllawiau Traffig Cymru.

Roedd y Pwyllgor hefyd yn cytuno gydag ymrwymiad y Cyngor i ymgyrch ‘Mai Di-dor’ ledled y Deyrnas Unedig.  Mae hyn yn golygu na fydd torri gwair yn dechrau'n ffurfiol tan fis Mehefin ac eithrio lleiniau gwelededd a llinellau gweld ar briffyrdd, ymylon a fyrdd mynediad i lwybrau troed, llwybrau beicio, meysydd chwaraeon, ardaloedd trefol fel ystadau tai, parciau dinesig, llety pobl hŷn, mynwentydd, a mannau chwarae/hamdden agored, a fydd yn cael eu torri fel arfer.

Hefyd, cafodd rhestr o ardaloedd a fydd yn cael eu gadael i ffynnu yn ystod cyfnod yr haf ei chymeradwyo, ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu pecynnau o hadau blodau gwyllt am ddim i grwpiau cymunedol ar gais.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor gyda chyfrifoldeb am Fannau Gwyrdd, “Rydyn ni'n deall bod angen cael cydbwysedd rhwng cynnal ein mannau gwyrdd ac annog byd natur i ffynnu.  Mae’r dull hwn eisoes wedi’i dreialu ledled y Fwrdeistref Sirol a chafodd y dull adborth cadarnhaol, gan gynnwys canmoliaeth gyhoeddus gan y naturiaethwr o Gymru, Iolo Williams.”

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor i’w gymeradwyo’n derfynol.  Mae’r drafft i’w weld yma (yn Saesneg yn unig).

 


Ymholiadau'r Cyfryngau