News Centre

Ffair y Gwanwyn Ystrad Mynach 2022

Postiwyd ar : 23 Chw 2022

Ffair y Gwanwyn Ystrad Mynach 2022
Dewch draw i ganol tref Ystrad Mynach ar 5 Mawrth rhwng 9am-5pm a chamu i dymor y gwanwyn!
 
Bydd tua 25 o stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair hwyl i blant ac adloniant theatr stryd gwych; bydd y dref yn dod yn fyw wrth i dymor y gwanwyn gyrraedd. Os ydych chi'n chwilio am ychydig o oriau allan gyda'r teulu, beth am ddod draw i Ystrad Mynach ac ymuno yn yr hwyl?
 
Mae canol y dref yn cynnig dewis hyfryd o siopau annibynnol ac mae amrywiaeth o leoliadau bwyta allan ledled y dref, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol.
 
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, lle bydd y ffyrdd ar gau rhwng 9pm nos Wener 4 Mawrth a 9pm nos Sadwrn 5 Mawrth.
 
Mae rhestr o'r masnachwyr a fydd yn bresennol ar y diwrnod isod:
 
Masnachwr Cynhyrchion ar werth
Afal y Graig Cider & Perry Seidr, Applesecco, Perai, (wedi'u pecynnu i'w hyfed oddi ar y safle)
Ally's Confectionary Losin newydd-deb a dymis roc
AromaOils Limited  Canhwyllau, cwyr i'w toddi, olew tryledwr a gemwaith
Baker Bears Brownis, pastai cwcis, cacennau lolipop, cacennau mewn jariau ac ati
Blair Lundie Eitemau addurnol cartref wedi'u gwneud o bren a llechi
Caerynys Shed Jewellery Gemwaith arian
Costco Wholesale Ltd Aelodaeth Costco
Dinky Donuts Toesenni ffres, diodydd poeth ac oer a chonau eira
Eleri's Welshcakes Pice ar y maen cartref
Falconry UK Arddangosfa lonydd o adar ysglyfaethus.
Cyngor Cymuned Gelligaer Eitemau hyrwyddo
Helens Homebakes Cacennau a theisennau cartref
Karen'r Bookshop mewn partneriaeth ag Usborne Llyfrau i blant, jig-sos a chardiau fflach/snap
Little Grandma's Kitchen Siytni, ceuled, cyffeithiau, marmaled a pastau
Mallows Bottling Limited Jin, bwrbon a gwirodydd
Mrs Boss Wales Anrhegion a nwyddau cartref wedi'u llingerfio â laser (pren, metel a llechi)
Pasithea Celf cerrig mân ac olewau naws, llosgwyr olew, peli cyfeillgarwch, conau arogldarth ac ati
Pembrokeshire Chilli Farm Sawsiau tsili, jam a sbeisys
Signore Twister Tatws ar ffurf troell a diodydd ysgafn.
The Slime Factory Pecynnau creu sleim
Utility Warehouse Raffl am ddim i ennill £20,000 a chyngor ynghylch cyfleustodau
Welsh Valley Soapery Sebon, siampŵ a chyflyrydd gwallt, cynhyrchion bath naturiol wedi'u gwneud â llaw ac ati
 
I holi am ofod masnachu a'r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk
 
I gael rhagor o wybodaeth am y farchnad, gan gynnwys y rhaglen adloniant, stondinau a fydd yn bresennol a'r ffyrdd a fydd ar gau, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy/events
 
HYSBYSIAD PWYSIG
 
Os ydych chi'n ymweld â Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach, cadwch at yr holl arwyddion a chanllawiau o amgylch safle'r digwyddiad.

Wrth ddod trwy brif fynedfeydd y safle, bydd hylif diheintio dwylo a masgiau wyneb ar gael.

Tra byddwch chi yn y digwyddiad, parchwch bobl eraill a chadw eich pellter i helpu diogelu pawb.

Rydyn ni eisiau i bawb fwynhau'r digwyddiad mewn amgylchedd diogel.

Cofiwch – Os ydych chi'n teimlo'n sâl, peidiwch â dod draw.


Ymholiadau'r Cyfryngau