News Centre

Pobl ifanc yn dathlu cyfleusterau chwarae newydd Springfield

Postiwyd ar : 24 Chw 2022

Pobl ifanc yn dathlu cyfleusterau chwarae newydd Springfield
Mae pobl ifanc yn Springfield, Pontllan-fraith yn dathlu agor cyfleusterau chwarae newydd yr hanner tymor hwn.

Mae Springfield wedi cael cyfleusterau newydd yn ei ardal chwarae bresennol, gan gynnwys siglenni newydd i blant bach ac iau, si-so, sbringwyr, ffensys a chylchfan cynhwysol sy'n addas i gadeiriau olwyn.  Mae parc sglefrio newydd sbon hefyd wedi’i osod, yn dilyn ymgynghoriad â’r gymuned leol.

Mae cyfanswm o £134,000 wedi’i fuddsoddi yn y cyfleusterau o ganlyniad i raglen flaenllaw Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Cyngor ei fod wedi cwblhau ei brif raglen SATC sydd wedi gweld dros £260 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn adnewyddu cartrefi tenantiaid ledled y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â gwelliannau amgylcheddol ehangach fel mannau chwarae, parciau sglefrio, campfeydd awyr agored, tirlunio a rhagor o feysydd parcio ceir.

 Dywedodd Alfie Davies, 11 oed ac o Springfield, “Rydw i wedi bod yn gyffrous iawn i’r parc sglefrio newydd agor.  Mae ganddo rampiau mawr, alla i ddim aros i ddechrau ymarfer gyda fy sgwter!”

Ychwanegodd Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, y Cynghorydd Shayne Cook, “Ochr yn ochr â’r gwelliannau a wnaed i gartrefi ein tenantiaid, mae rhaglen SATC wedi gweld ystod eang o gyfleusterau newydd yn cael eu darparu mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol.  Mae cael mannau awyr agored addas yn allweddol nid yn unig i annog pobl i fod yn fwy actif, ond mae hefyd yn chwarae rhan enfawr mewn gwella lles.

“Mae’n wych gweld pobl ifanc yn manteisio ar y cyfleusterau newydd yn Springfield yn barod!”
 


Ymholiadau'r Cyfryngau