Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Prydau ysgolion cynradd
Swyddi a hyfforddiant
Cynghorwyr a phwyllgorau
Canolfannau Hamdden
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2022
Pobl ifanc yn dathlu cyfleusterau chwarae newydd Springfield
News Centre
Pobl ifanc yn dathlu cyfleusterau chwarae newydd Springfield
Postiwyd ar : 24 Chw 2022
Mae pobl ifanc yn Springfield, Pontllan-fraith yn dathlu agor cyfleusterau chwarae newydd yr hanner tymor hwn.
Mae Springfield wedi cael cyfleusterau newydd yn ei ardal chwarae bresennol, gan gynnwys siglenni newydd i blant bach ac iau, si-so, sbringwyr, ffensys a chylchfan cynhwysol sy'n addas i gadeiriau olwyn. Mae parc sglefrio newydd sbon hefyd wedi’i osod, yn dilyn ymgynghoriad â’r gymuned leol.
Mae cyfanswm o £134,000 wedi’i fuddsoddi yn y cyfleusterau o ganlyniad i raglen flaenllaw Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Cyngor ei fod wedi cwblhau ei brif raglen SATC sydd wedi gweld dros £260 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn adnewyddu cartrefi tenantiaid ledled y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â gwelliannau amgylcheddol ehangach fel mannau chwarae, parciau sglefrio, campfeydd awyr agored, tirlunio a rhagor o feysydd parcio ceir.
Dywedodd Alfie Davies, 11 oed ac o Springfield, “Rydw i wedi bod yn gyffrous iawn i’r parc sglefrio newydd agor. Mae ganddo rampiau mawr, alla i ddim aros i ddechrau ymarfer gyda fy sgwter!”
Ychwanegodd Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, y Cynghorydd Shayne Cook, “Ochr yn ochr â’r gwelliannau a wnaed i gartrefi ein tenantiaid, mae rhaglen SATC wedi gweld ystod eang o gyfleusterau newydd yn cael eu darparu mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae cael mannau awyr agored addas yn allweddol nid yn unig i annog pobl i fod yn fwy actif, ond mae hefyd yn chwarae rhan enfawr mewn gwella lles.
“Mae’n wych gweld pobl ifanc yn manteisio ar y cyfleusterau newydd yn Springfield yn barod!”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Ffiliffest 2024
Ffair Fai Bargod yn llwyddiant ysgubol ac yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Gwaith yn dechrau ar gynllun blaenllaw Rhisga ar gyfer byw bywyd hŷn
Gofalwyr maeth Caerffili yn dangos y 'gall pawb gynnig rhywbeth' i gynorthwyo pobl ifanc yn yr ardal
Llwyddiant ysgubol yn ras 10 Cilomedr Caerffili 2024
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y