News Centre

Mae amser yn brin i wneud cais am gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf

Postiwyd ar : 24 Chw 2022

Mae amser yn brin i wneud cais am gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa trigolion cymwys bod amser yn brin i wneud cais ar gyfer y cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw 28 Chwefror. 

Drwy'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf, gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £200 i ddarparu cymorth tuag at dalu eu biliau tanwydd gaeaf.  Mae’r cynllun yn agored i aelwydydd lle mae un aelod yn cael budd-daliadau oedran gweithio sy’n seiliedig ar brawf modd ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022. 

Gallai hyn gynnwys Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Gysylltiedig ag Incwm, Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm neu Gredydau Treth Gwaith.

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ac i wneud cais ar-lein ewch i wefan y cyngor.

Mae cymorth hefyd ar gael i gwblhau’r cais dros y ffôn drwy gysylltu â Gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth y Cyngor ar 01443 811450. 


Ymholiadau'r Cyfryngau