Mae Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cwrdd â Gweinidog Llywodraeth Cymru i drafod materion allweddol
Postiwyd ar : 09 Chw 2022
Fe wnaeth Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gwrdd â Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru yr wythnos hon i drafod nifer o faterion allweddol.
Roedd y cyfarfod cadarnhaol yn canolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth:
- Gwella cyfraddau ailgylchu ledled y Fwrdeistref Sirol
- Mynd i'r afael â phryderon llygredd hanesyddol yn chwarel Tŷ Llwyd ger Ynys-ddu
- Cynllunio ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol ar hyd yr A469 rhwng Pontlotyn a Thredegar Newydd
Bydd rhagor o wybodaeth a diweddariadau yn cael eu cyhoeddi wrth i'r meysydd gwaith allweddol hyn fynd yn eu blaen yn y dyfodol agos.