News Centre

Rhybudd Tywydd Coch – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 17 Chw 2022

Rhybudd Tywydd Coch – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae'r Swyddfa Dywydd bellach wedi cyhoeddi rhybudd tywydd COCH ar gyfer rhannau o'r Fwrdeistref Sirol ddydd Gwener 18 Chwefror. 

Fe all Storm Eunice achosi aflonyddwch sylweddol oherwydd gwyntoedd eithriadol o gryf, felly mae'r Cyngor yn annog pawb i gymryd gofal dros y diwrnod neu ddau nesaf.

Ar hyn o bryd, mae’r Swyddfa Dywydd yn cynghori:

  • Malurion hedegog yn achosi perygl i fywyd
  • Difrod i adeiladau a chartrefi, gyda thoeau'n cael eu chwythu i ffwrdd a llinellau pŵer yn cwympo
  • Mae’n debygol y bydd coed yn cael eu dadwreiddio
  • Ffyrdd, pontydd a llinellau rheilffordd ar gau, gydag oedi a chansladau i wasanaethau bws, trên, fferi/llong a theithiau hedfan
  • Toriadau pŵer yn effeithio ar wasanaethau eraill, megis signal ffonau symudol
  • Tonnau mawr a deunydd traeth yn cael ei daflu ar ffyrdd arfordirol, glan y môr a chartrefi, gan gynnwys llifogydd mewn rhai eiddo arfordirol 

Mae'r cyngor yn gweithio ddydd a nos i baratoi ar gyfer unrhyw effeithiau sy'n codi o ganlyniad i'r storm.

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Caerffili, “Mae’n ymddangos bod y 24 awr nesaf yn mynd i ddod â nifer o heriau ac rydw i eisiau rhoi sicrwydd i'r gymuned gyfan ein bod ni wedi paratoi ac yn barod i weithredu.”

“Mae trefniadau staff ac adnoddau yn cael eu cryfhau i ddarparu cymorth ychwanegol lle bynnag y mae ei angen a byddwn yn blaenoriaethu materion allweddol ac argyfyngau wrth iddynt ddod i’r amlwg.”

“Hoffwn i annog pawb i gymryd gofal, osgoi unrhyw deithiau diangen a chadw llygad ar berthnasau neu gymdogion sy'n agored i niwed a allai gael eu heffeithio gan y tywydd garw.”
 
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi bod trefniadau wrth gefn yn cael eu cryfhau i sicrhau bod lefelau priodol o staff ac adnoddau wrth law i helpu i gadw'r gymuned yn ddiogel.
 
Mae ceuffosydd a gylïau yn cael eu clirio i ddarparu digon o gapasiti ar gyfer glaw ychwanegol.
 
Mae ardaloedd sydd â hanes o lifogydd gwael yn cael eu targedu a bydd timau wrth law i helpu os oes angen gyda bagiau tywod a chymorth arall.
 
Bydd timau o wasanaethau cefn gwlad yn cael eu cryfhau i ddelio ag unrhyw argyfyngau sy'n cael eu hachosi gan goed yn cwympo.
 
Bydd y gwasanaeth casglu sbwriel yn cael ei ohirio ddydd Gwener 18 Chwefror, felly mae trigolion yn cael eu cynghori i beidio â rhoi eu biniau allan. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn am drefniadau i ailgydio'r gwasanaeth.
 
Bydd y gwasanaeth dosbarthu Prydau Ysgol Am Ddim yn cael eu gohirio a bydd unrhyw gyflenwadau a fethwyd yn cael eu cwblhau cyn gynted â phosibl.
 
Bydd canolfannau hamdden, llyfrgelloedd ac adeiladau eraill y Cyngor ar gau i'r cyhoedd.
 
Bydd pob ysgol ar draws y Fwrdeistref Sirol yn newid i drefniadau dysgu o bell ddydd Gwener.
 
Bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol yn parhau lle bynnag y bo modd, ond efallai y bydd tarfu oherwydd effeithiau'r storm.
 
Gall trigolion rhoi gwybod am broblem neu ofyn am wasanaeth ar-lein drwy fynd i www.caerffili.gov.uk. Fel arall, gallant ffonio 01443 815588 yn ystod oriau swyddfa arferol neu 01443 875500 ar gyfer materion brys y tu allan i oriau swyddfa arferol.
 
 
 



Ymholiadau'r Cyfryngau