News Centre

Cynlluniau wedi'u cymeradwyo i barhau i arloesi cynllun tai Allweddi Caerffili

Postiwyd ar : 16 Chw 2022

Cynlluniau wedi'u cymeradwyo i barhau i arloesi cynllun tai Allweddi Caerffili
Mae cynigion i barhau â chynllun prydlesu sector preifat arloesol wedi’u cymeradwyo gan Bwyllgor Craffu Tai ac Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Yn ystod cyfarfod o bell ar 9 Chwefror, bu aelodau’r Pwyllgor Craffu yn ystyried cynigion i barhau i ddarparu menter y Cyngor, Allweddi Caerffili, fel dewis arall yn lle mabwysiadu cynllun prydlesu newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae menter Allweddi Caerffili wedi’i darparu’n llwyddiannus gan dîm Atebion Tai y Cyngor ers dros dair blynedd.  Mae'r cynllun yn paru pobl ag eiddo addas, yna'n cynnig cymorth am ddim i'r tenant a'r landlord i gynnal y denantiaeth.

Ar hyn o bryd, mae dros 100 o gartrefi wedi'u cofrestru gyda'r cynllun ac mae'r prosiect wedi helpu llawer o deuluoedd ac unigolion a fyddai, fel arall, wedi cael eu hunain yn ddigartref, gan gynnwys ailgartrefu'r rhai a oedd yn cysgu allan yn flaenorol.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Allweddi Caerffili oedd y cynllun cyntaf o’i fath i awdurdod lleol yng Nghymru, ac rydyn ni'n hynod falch bod aelodau’r Pwyllgor Craffu wedi cefnogi cynigion i barhau â'r fenter.

“Mae’r cynllun yn fodel sefydledig y gellir ymddiried ynddo sy’n cynnig cyfoeth o fuddion ac sydd â hanes profedig o atal digartrefedd, wrth helpu hefyd landlordiaid preifat i ddod o hyd i denantiaid addas ar gyfer eu cartrefi nhw.”

I gael gwybod rhagor Allweddi Caerffili, ewch i.


Ymholiadau'r Cyfryngau