News Centre

Gwaith dymchwel i ddechrau ym meddygfa wag Caerffili

Postiwyd ar : 11 Chw 2022

Gwaith dymchwel i ddechrau ym meddygfa wag Caerffili
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu dechrau gwaith i ddymchwel hen feddygfa wag ym Mharc Lansbury, Caerffili.
 
Daeth yr adeilad, sydd wedi'i amgylchynu gan dir sy'n eiddo i'r Cyngor, yn wag pan ymddeolodd y meddyg teulu blaenorol, ac ni fynegodd unrhyw ddarpar berchnogion ddiddordeb yn yr eiddo.
 
Gwnaeth y Cyngor benderfyniad i brynu'r eiddo er mwyn ei gysoni â'r asedau o'i amgylch. Nid oedd yr eiddo'n cael ei ystyried yn briodol ar gyfer darparu gwasanaethau amgen ac, felly, cafodd y penderfyniad ei wneud i fwrw ymlaen â'r gwaith dymchwel er mwyn atal yr adeilad rhag mynd yn adfail a dod yn fagnet posibl ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.
 
Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn archwilio opsiynau ar gyfer y safle yn y dyfodol, a bydd ymgynghoriad cymunedol yn cael ei gynnal drwy gydol y broses.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Mae buddsoddiad sylweddol wedi’i wneud ym Mharc Lansbury dros y blynyddoedd diwethaf fel rhan o brosiect adfywio wedi’i dargedu, mewn partneriaeth â phreswylwyr.  Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y gymuned leol yn parhau i chwarae rhan allweddol mewn cynlluniau ar gyfer Parc Lansbury a’r safle hwn.
 
“Rydyn ni hefyd yn cydnabod bod y safle hwn wedi cael ei ddefnyddio fel man i goffáu trasiedi a ddigwyddodd ym Mharc Lansbury rai blynyddoedd yn ôl.  Hoffem ni sicrhau y bydd y plac coffa sydd wedi’i leoli yn yr adeilad ar hyn o bryd yn cael ei dynnu’n broffesiynol a’i storio’n ddiogel, hyd nes mae lleoliad arall yn cael ei gytuno gyda’r teulu a’r gymuned leol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau