News Centre

Y Cyngor yn cwblhau rhaglen gwella cartrefi gwerth £260 miliwn

Postiwyd ar : 08 Chw 2022

Y Cyngor yn cwblhau rhaglen gwella cartrefi gwerth £260 miliwn
Mr Tiley & Cllr Philippa Marsden, Leader of CCBC
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi ei fod wedi cwblhau ei raglen Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).
 
Y rhaglen flaenllaw hon yw'r buddsoddiad unigol mwyaf erioed yn stoc tai’r Cyngor, gyda dros £260 miliwn yn cael ei wario ar welliannau i gartrefi a chymunedau tenantiaid.
 
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Caerffili yn berchen ar 10,660 o gartrefi ledled y Fwrdeistref Sirol ac yn eu rheoli nhw.  Drwy ei raglen SATC, mae cartrefi tenantiaid wedi cael eu hadnewyddu’n fewnol ac yn allanol gydag addasiadau i sicrhau bod cartrefi’n diwallu anghenion aelwydydd unigol yn ogystal ag ystod eang o welliannau amgylcheddol i wella cymunedau.
 
Yn ddiweddar, ymwelodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, ag un o’r tenantiaid olaf i gael gwelliannau fel rhan o’r rhaglen.  Dywedodd Mr Tiley, sy’n byw ym Mhont-y-waun, “Rydw i wedi byw yma ers 11 mlynedd, ac mae’r gwelliannau y mae’r Cyngor wedi’u cyflawni wedi gwneud byd o wahaniaeth.  Rydw i'n llawer mwy cyfforddus, a bydd hyn yn gwneud bywyd o ddydd i ddydd yn haws.”
 
“Hoffwn i ddiolch i’r Arweinydd am gymryd amser i ymweld â fy nghartref a gwrando ar fy meddyliau a fy marn i.”
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Marsden, “A hoffwn i ddiolch i Mr Tiley am roi croeso mor gynnes i mi i'w gartref heddiw ac am ddweud wrthyf i am ei brofiad o'r rhaglen SATC.
 
“Rydw i’n falch iawn o gyhoeddi ein bod ni bellach wedi cwblhau’r rhaglen SATC ac yn cydnabod nad yw cyflawni rhywbeth o’r raddfa hon wedi bod heb ei heriau, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19.  Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses o gyflwyno’r rhaglen hon, o’r dechrau i’r diwedd.
 
“Er ein bod ni wedi cyflawni’r cam cychwynnol hwn o sicrhau bod cartrefi yn cyrraedd y Safon, nid yw hyn yn golygu bod ein gwaith ni ar ben!  Mae ein tîm Cartrefi Caerffili eisoes yn brysur yn datblygu cynlluniau i sicrhau bod cartrefi’n cael eu cynnal i’r Safon dros y blynyddoedd i ddod, yn ogystal â chyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol ni ar gyfer adeiladu tai newydd y Cyngor.”


Ymholiadau'r Cyfryngau