Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Prydau ysgolion cynradd
Swyddi a hyfforddiant
Cynghorwyr a phwyllgorau
Canolfannau Hamdden
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2022
Cyllideb Caerffili yn ‘amddiffyn gwasanaethau ac yn gwarchod y gymuned rhag toriadau’
News Centre
Cyllideb Caerffili yn ‘amddiffyn gwasanaethau ac yn gwarchod y gymuned rhag toriadau’
Postiwyd ar : 23 Chw 2022
Gallai trigolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili weld cynnydd o 1.9% yn nhreth y cyngor ar gyfer 2022/23, yn lle’r cynnydd o 2.5% a oedd wedi'i gynllunio'n wreiddiol.
Cyfarfu Cabinet Cyngor Caerffili heddiw (dydd Mercher 23 Chwefror) i gwblhau’r gyllideb newydd a gwnaethon nhw gytuno'n unfrydol i ailystyried y cynnydd yn nhreth y cyngor yn dilyn adborth gan y cyhoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Gyllid, “Roedd cynigion y gyllideb ddrafft wreiddiol yn cynnwys cynnydd o 2.5%, sy’n llawer is na chyfradd chwyddiant a’r cynnydd isaf ers nifer o flynyddoedd.
“Fodd bynnag, rydyn ni wedi gwrando ar y gymuned ac yn ymwybodol o’r pwysau sylweddol ar gyllidebau cartrefi, felly, mae cynigion y gyllideb derfynol bellach yn cynnwys cynnydd arfaethedig is o ran treth y cyngor o 1.9%. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd wythnosol o 45c ar gyfer eiddo Band D”
Mae rhai o’r prif ffigurau sydd wedi’u cynnwys yng nghynigion y cyllid yn cynnwys:
£9.6 miliwn o fuddsoddiad newydd ar gyfer gwasanaethau allweddol
Bydd £5.7 miliwn o hwn yn cael ei dargedu’n benodol at wasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys addewid i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol
£250,000 ar gyfer cynllun prentisiaeth newydd y Cyngor
Buddsoddiad mewn gwasanaethau diogelwch y cyhoedd i gynyddu capasiti mewn timau allweddol megis safonau masnach, gorfodi ac iechyd yr amgylchedd
Buddsoddiad newydd mewn mesurau rheoli chwyn ychwanegol
Buddsoddiad ychwanegol yn y gwasanaeth Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol i helpu cadw ein cymunedau'n ddiogel
£235,000 i helpu targedu gwaith atal llifogydd ac diogelu cymunedau agored i niwed
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, “Eleni, rydyn ni wedi gweithio’n galed i greu cyllideb gytbwys sy’n diogelu ein gwasanaethau allweddol ni ac yn gwarchod y gymuned rhag toriadau, diolch i’n dull darbodus ni.
“Yn ogystal â hyn, rydyn ni hefyd yn buddsoddi’n sylweddol mewn nifer o feysydd allweddol a fydd yn sicrhau buddion enfawr, yn enwedig y £5.7 miliwn o fuddsoddiad mewn gofal cymdeithasol i amddiffyn a diogelu ein trigolion mwyaf agored i niwed ni.
“Dyma gyllideb rwy’n falch iawn ohoni, ac mae’n enghraifft wych arall o’r hyn y gallwn ni ei gyflawni drwy gydweithio fel Tîm Caerffili,” ychwanegodd.
Bydd cynigion y gyllideb derfynol yn cael eu hystyried i'w cymeradwyo mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ddydd Iau 24 Chwefror.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Ffiliffest 2024
Ffair Fai Bargod yn llwyddiant ysgubol ac yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Gwaith yn dechrau ar gynllun blaenllaw Rhisga ar gyfer byw bywyd hŷn
Gofalwyr maeth Caerffili yn dangos y 'gall pawb gynnig rhywbeth' i gynorthwyo pobl ifanc yn yr ardal
Llwyddiant ysgubol yn ras 10 Cilomedr Caerffili 2024
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y